Mae gweithio gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid yn rhan bwysig o waith Cyfeillion y Ddaear.
Darparwn weithgaredd blynyddol ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid i'ch helpu i gyflwyno addysg amgylcheddol o'r safon uchaf.
Codwch Lais yw prosiect gweithgaredd blynyddol Cyfeillion y Ddaear ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 sydd am chwarae eu rhan mewn materion amgylcheddol.

Enillwyr Codwch Lais: Newid Hinsawdd 2006, Ysgol Greenhill, Sir Penfro
Mae Codi Llais yn cynnwys llawer o adnoddau difyr a chystadleuaeth y gall ysgolion gymryd rhan ynddi. Mae yna wythnos ffocws bob blwyddyn ond gallwch, wrth gwrs, ddefnyddio'r adnoddau pryd bynnag y dymunwch. Mae'r pecyn gweithgareddau ar gael, yn llawn ffyrdd ysgogol i addysgu am newid hinsawdd, syniadau am wersi a gweithgareddau, nodiadau athrawon a gwybodaeth am ba fath o gefnogaeth y gallwn ni ei chynnig.
Mi fydd yna pecyn newydd ar datrysiadau i achosion newid hinsawdd ar gael yr haf yma.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n prif adran Dysgu.
Croesawn unrhyw adborth a allai fod gennych am ein hadnoddau.
Mae'r pecyn Codwch Lais: Newid Hinsawdd ar gael mewn Saesneg neu yng Nghymraeg. Os gwelwch yn dda cysylltwch â'r adran Dysgu er mwyn dderbyn fersiwn Saesneg neu ysgrifennwch at Cyfeillion y Ddaear Cymru er mwyn dderbyn fersiwn Gymraeg.