Skip navigation and title
Friends of the Earth Cymru / Cyfeillion y Ddaear Cymru

Hafan > CYDd Cymru > Adnodd


Grass
Friends of the Earth Cymru

Gwneud bywyd yn well i bobl drwy ysbrydoli atebion i broblemau amgylcheddol


Ymgyrchoedd Adnodd Grwpiau Lleol Drwy’r byd i gyd

Cymraeg / English

Adnodd

Cyflwyniad
Bwyd Go Iawn
Cludiant

Cynllunio
Gwastraff
Hinsawdd
Ymgyrchoedd eraill

Cyflwyniad

Croeso i gatalog cyhoeddiadau ar-lein Cyfeillion y Ddaear Cymru. Bu Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am yr amgylchedd ers 1984. Mae'r cyhoeddiadau'n amrywio o friffiau i adroddiadau technegol yn ogystal ag ymatebion i ymgynghoriadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cyhoeddi ei holl gyhoeddiadau ar gyfer y cyhoedd yn ddwyieithog. Fodd bynnag, fe all cyhoeddiadau a gynhyrchir ar gyfer cyrff eraill, ond y byddant ar gael i'r cyhoedd, fod yn uniaith Saesneg. Mae rhai cyhoeddiadau hyn ar gael yn uniaith Saesneg. Mae hyn yn unol â'r cynllun yr iaith Gymraeg yr ydym ar hyn o bryd yn ceisio cael cymeradwyaeth iddo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Mae'r holl gyhoeddiadau i'w cael yn rhad ac am ddim. Gellir gweld ac argraffu cyhoeddiadau yn uniongyrchol. Chwiliwch am y côd PDF† sy'n dynodi cysylltiad i ffeil Adobe Acrobat.

Bwyd Go Iawn

Darllen cyffredinol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chnydau GM
(PDF Fformat 137K) Tachwedd 2002
Pum cam y mae'n rhaid i'r Cynulliad eu cymryd i gadw Cymru'n Rhydd o GM. Dogfen a gynhyrchwyd ar y cyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymru Rydd o GM a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched - Cymru. Mae'r brîff yma'n gosod her i'r Cynulliad i gymryd camau gwirioneddol i gadw Cymru'n Rhydd o GM.

Amgylchedd Cymru'n Rhydd o GM
(Fformat PDF 165K) Medi 2002
Adolygiad o ymgyrch lwyddiannus Cyfeillion y Ddaear Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol fabwysiadu polisi yn cyfyngu plannu cnydau sydd wedi eu haddasu'n enetig yng Nghymru. Mae'r brîff yma'n cyflwyno cronoleg o ymgyrch Cyfeillion y Ddaear Cymru rhwng 1999 a 2002 ac yn gwneud argymhellion ar gyfer polisi'r Cynulliad yn y dyfodol.

Amgylchedd Lleol Cymru yn Rhydd o GM
(Fformat PDF 165K) Gorffennaf 2003
Camau y gall Awdurdodau Lleol eu cymyd i gadw Cymru'n rhydd o GM. Dogfen wedi ei chynhyrchu ar y cyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru, Undeb
Amaethwyr Cymru, GM Free Cymru a Ffederasiwn Genedlaethol Sefydliad y Merched- Cymru. Mae'r ddogfen yn disgrifio mesurau y gall Awdurdodau Lleol eu cymryd i gadw eu hardaloedd yn rhydd o GM, gan gynnwys drafft o benderfyniad ar gyfer y Cyngor.

Gwybodaeth fanwl

Cynigion Comisiwn yr UE ar y Trothwyau ar gyfer Presenoldeb Damweiniol GMO Cymeradwyedig mewn Hadau
(Fformat PDF 95K) Medi 2002
Brîff cryno o ymateb Cyfeillion y Ddaear Cymru i ymgynghoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gynigion y Comisiwn Ewropeaidd i osod lefelau y gall hadau confensiynol gael eu gwenwyno gan organebau GM. Mae'r ymateb yn dadlau y byddai'r cynigion yn llesteirio ymdrechion y Cynulliad i hyrwyddo ffermio organig yng Nghymru ac yn arwain at lefelau annerbyniol o wenwyno GM yn yr amgylchedd a'r gadwyn fwyd. Mae'r ymateb yn galw ar y Cynulliad i gymryd safiad cryf yn erbyn y cynigion.

Cludiant

Argymhelliad i ddeuoli'r A40 San Clêr-Hwlffordd
(Fformat PDF 113K) Mai 2001
Yn cyflwyno achos economaidd ac amgylcheddol yn erbyn deuoli'r A40 San Clêr - Hwlffordd. Mae'r papur yn galw am well trafnidiaeth gyhoeddus integredig a mwy o ddefnydd o'r rheilffyrdd.

Trafnidiaeth Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain
(Fformat PDF 94K) Mehefin 1999
Brîff dwy dudalen ar gyfeiriad polisi cludiant yng Nghymru yn y dyfodol.

O Fôn i Fynwy

(Fformat PDF 117K) Ionawr 2000
Strategaeth cludiant cynaladwy, intergeiddiedig a fforddadwy yn cysylltu gogledd, canolbarth a de Cymru. Mae'r adroddiad hwn yn beirniadu'r galw am fwy o adeiladu ffyrdd ac yn cynnig gwasanaeth rheilffordd cyflym fforddadwy, gwasanaeth bws 'high tec' a phecyn diogelu ffyrdd uwchraddedig cost effeithiol yn ei le.

Uwchraddio Ffyrdd - Cymorth neu rwystr i economiau ymylol Cymru?
(Fformat PDF 103K) Mai 1998
Mae'r adroddiad, sy'n canolbwyntio ar Gymru, yn pwysleisio'r prif effeithiau economaidd negyddol all ddigwydd drwy uwchraddio ffyrdd. Awgrymir dewisiadau eraill i adeiladu ffyrdd newydd fel modd o gyflawni adfywiad economaidd mwy cynaladwy.

Cynllunio

Cyfiawnder Cynllunio i Gymru
(Fformat PDF 133K) Medi 2002
Mae'r brîff yn dadlau bod y system gynllunio yng Nghymru yn annheg oherwydd bod gan ddatblygwyr hawl apelio a wrthodir i drigolion lleol a gwrthwynebwyr eraill. Mae'r brîff yn cyflwyno achos am hawl apelio cyfyngedig i 'drydydd person' ac yn awgrymu sut y gallai hyn gael ei gyflawni heb oedi mawr yn y system gynllunio.

Gwastraff

Darllen cyffredinol

Dim-gwastraff yng Nghymru - o waredu gwastraff i'r economi dim-gwastraff
Mae'r papur brîff hwn yn archwilio effeithiau ein cymdeithas taflu-ffwrdd. Mae'n dadlau'r achos dros weithredu ar bob lefel fel bod Cymru'n dod yn wlad dim-gwastraff.
(Fformat PDF) Rhagfyr 2003

Hinsawdd

Darllen cyffredinol

Mynd i'r afael newid hinsawdd ar y lefel leol
(Fformat PDF 372K) Rhagfyr 2005
Rôl cynlluniau datblygu lleol mewn lleihau allyriadau
datblygiadau newydd yng Nghymru

Newid Hinsawdd: Trosolowg
(Fformat PDF 119K) Gorffenaf 2005
Mae tystiolaeth wyddonol gref erbyn hyn bod y newidiadau hinsawdd yn ganlyniad i weithgaredd dynol. Ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil - glo, olew a nwy - i ddarparu gwres, trydan, pwer cludiant a gofynion ynni eraill yw'r prif achos.

Y llanw'n codi: effaith newid hinsawdd
(Fformat PDF 110K) Gorffenaf 2005
Trosolowg o effeithiau newid hinsawdd megis llifogydd.

Colli ein cynefinoedd i newid hinsawdd
(Fformat PDF 117K) Gorffenaf 2005
Mae cynefinoedd yn Nghymru yn diflannu oherwydd newidiadau yn ein hinsawdd.

Chwyldro ynni newydd
(Fformat PDF 118K) Gorffenaf 2005
Systemau ynni adnewddadwy newydd i Gymru fan gynnwys morlynoedd llanw a tyrbinau tanddwr.

Ynni adnewyddadwy nid pwer niwclear
(PDF format 118K) July 2005
Mae'r diwydiant niwclear wedi bod yn gweithredu ers tua 50 mlynedd ac eto nid oes ffordd argyhoeddiadol o storio gwastraff ymbelydrol hir dymor yn ddiogel. Byddai’r gwastraff hwn yn parhau'n beryglus iawn am ddegau o filoedd o flynyddoedd.

Ffordd i ddistryw hinsawdd
(Fformat PDF 120K) Gorffenaf 2005
Mae adeiladu ffyrdd newydd mawr yn arwain at gynnydd mewn traffig sy'n arwain at ragor o allyriadau carbon deuocsid (CO) - y prif nwy sy'n gyfrifol am gynhesu byd-eang. Mae mwy o draffig hefyd yn golygu mwy o alw am olew, mwy o lygredd aer a dirywiad mewn iechyd, diogelwch ar y ffyrdd a lefelau ffitrwydd oedolion a phlant.

Helynt Hinsawdd: Agweddau at Newid Hinsawdd a Ffermydd Gwynt yng Nghymru
(Fformat PDF 615K) Medi 2004
Cynhaliodd Cyngor Defnyddwyr Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru arolwg Cymru-gyfan ym Mawrth 2004, a ran gyllidwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Dengys y canlyniadau fod y rhan fwyaf o bobl yn credo for pobl yn cyfrannu at newid hinsawdd. Yr achos newid hinsawdd a ddynodwyd y rhan fwyaf o bobl oedd llosgi tanwyddau ffosil. Roedd bron hanner y sampl yn cefnogi ffermydd gwynt.

Mae newid hinsawdd yn rhywbeth go iawn, cefnogwch ynni gwynt
(Fformat PDF 70K) Medi 2004
Dyma egluriad gan Cyfeillion y Ddaear Cymru o'r broblem o newid hinsawdd, ac felly yr angen i newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy, ac yn arbennig, ffermydd gwynt. Mae cynnig fferm wynt Scarweather Sands yn bwsyig iawn yng Nghymru er mwyn cynhyrchu fwy o drydan o ffynonellau adnewyddadwy.

Morglawdd Hafren neu morlynnoedd llanw?
(Fformat PDF 64K) Ionawr 2004
Mae'r papur brîff hwn yn cymharu cynllun Morglawdd Hafren gyda thechnoleg cynhyrchu trydan newydd a elwir yn forlynnoedd llanw, y gellir hefyd eu hadeiladu ym Moryd Hafren. Dengys yr astudiaeth y byddai'r morlynnoedd, o ran cost trydan, faint o drydan a gynhyrchir, effeithiau ar yr amgylchedd a'r rhan fwyaf o ystyriaethau eraill, yn well dewis o lawer na'r Morglawdd.

Fferm wynt fôr Scarweather Sands - Cydbwyso'r ddadl
(Fformat PDF 93K) Gorffennaf 2003
Taflen yn esbonio manteision y fferm wynt wedi ei awgrymmu ar gyfer Bae Abertawe, ac yn ymateb i ofidiau sydd wedi eu mynegi gan rai trigolion lleol ynglyn a'r datblygiad.

Rhwystro Cynhesu Byd-eang
(Fformat PDF) Gorffennaf 2002
Brîff i Aelodau'r Cynulliad yn amlinellu sut y gall Cymru ddatblygu diwydiant ynni adnewyddadwy o fewn y wlad. Mae'r brîff yn cynnwys targedau a argymhellir ar gyfer ystod o dechnolegau adnewyddadwy.

Gwybodaeth fanwl

Newid Hinsawdd Effeithiau posibl ar Gymru
(Fformat PDF) Tachwedd 1997
Mae'r adroddiad yn dangos y gall newid hinsawdd gael effaith sylweddol ar fywyd yng Nghymru. Yn seiliedig ar ymchwil y Llywodraeth ac ymchwil ryngwladol, daw i'r casgliad y gallai yr amhariad gaiff ei ddarogan i hinsawdd gael patrymau tywydd mwy eithafol a newidiol fyddai'n cael effaith niweidiol ar weithgarwch economaidd, yr amgylchedd naturiol a iechyd.

Ymgyrchoedd Eraill

Cynnal Sbin
(Fformat PDF - 370K) Hydref 2004
Dyma asesiad ar brif-ffrydio datblygiad cynaliadwy gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'n cyflwyno dealltwrieath Cynulliad Cymru o'i dyletswydd i hyrwyddo datblygu cynaliadwy, a beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn. Un casgliad o'r adrodd yw'r broblem o ddeall yr hyn a olygir gan datblygu cynaliadwy.

GATS yng Nghymru
(Fformat PDF - 143K) Ebrill 2004
Mae'r papur brîff hwn yn edrych ar effeithiau posib Cytundeb Cyffredinol ar Fasnach mewn Gwasanaethau (GATS) Sefydliad Masnach y Byd ar Gymru. Daw'r i'r casgliad y gallai'r cytundeb gyfyngu'n fawr rymoedd Cynulliad Cymru i lywodraethu er budd y cyhoedd pan allai ei weithredoedd wrthdaro gyda buddiannau busnesau mawr.

Olew y Sea Empress ar arfordir Penfro ar y trydydd pen blwydd y colli olew
(Fformat PDF) Chwefor 1999
Mae'r adroddiad hwn yn disgrifio arolwg o arfordir Sir Benfro yn nodi arsylwadau ar olew gwaddod y Sea Empress. Adroddiad i Gyfeillion y Ddaear Cymru gan Tîm Deere-Jones.


I edrych ar ffeiliau PDF bydd angen i chi ddadlwytho Adobe Acrobat Reader. Gall defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg gael cymorth ychwanegol gyda'r dogfennau hyn gan access.adobe.com.


Ddatganiadau i'r wasg Newyddion Pwyso am Newid Cymryd Rhan
Diweddariad diwethaf:
Dewislen: Mai 2008
Cynnwys: Ebrill 2006