Amdanom ni
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru:
- yn ymroddedig i ddiogelu'r amgylchedd a hyrwyddo dyfodol cynaliadwy
ar gyfer Cymru
- yn rhan o fudiad ymgyrchu amgylcheddol mwyaf dylanwadol y DG
- yn rhan o'r rhwydwaith amgylcheddol mwyaf eang yn y byd, gyda dros
60 o fudiadau cenedlaethol ar draws pum cyfandir
- yn cefnogi rhwydwaith unigryw o grwpiau lleol sy'n ymgyrchu mewn
cymunedau ledled Cymru
- yn dibynnu ar unigolion am dros 90 y cant o'i incwm
Sefydlwyd Cyfeillion y Ddaear Cymru yn 1984, 13 o flynyddoedd wedi
sefydlu Cyfeillion y Ddaear yn y DG yn 1971, i ymgyrchu yn benodol yng
Nghymru ar faterion amgylcheddol.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru'n cyflogi pump o bobl sydd wedi eu
lleoli yn bennaf yng Nghaerdydd, de Cymru:
- Pennaeth Ymgyrchoedd a Datblygu
- Swyddog Datblygu Grwpiau Lleol
- Ymgyrchydd Cynulliad
- Swyddog Gwybodaeth ac Ymgyrchoedd
- Ymgyrchydd wedi ei leoli ym Methesda, gogledd Cymru.
Mae gennym hefyd gefnogaeth gwirfoddolwyr
sydd yn ymwneud ymhob maes o waith Cyfeillion y Ddaear o weinyddu cyffredinol
i ymgyrchu ac ymchwil ac maent yn chwarae rhan hanfodol yn ein llwyddiant
fel mudiad.
Ein
hymgyrchoedd >