Skip navigation and title
Friends of the Earth Cymru / Cyfeillion y Ddaear Cymru

Hafan > CYDd Cymru > Gwirfoddoli


Grass
Friends of the Earth Cymru

Gwneud bywyd yn well i bobl drwy ysbrydoli atebion i broblemau amgylcheddol


Ymgyrchoedd Adnodd Grwpiau Lleol Drwy’r byd i gyd

Cymraeg / English

Gwirfoddoli

Beth wnaf i?
Sut byddaf ar fy ennill?
Gwnewch gais nawr!

Heb gefnogaeth ac ymroddiad gwirfoddolwyr ni fyddai Cyfeillion y Ddaear Cymru yn gallu gwneud ei waith ymgyrchu pwysig.

Yng Nghyfeillion y Ddaear Cymru rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i'n llwyddiant ac rydym yn ymroddedig i sicrhau bod gwirfoddoli yn brofiad gwerth chweil a chynhyrchiol.

Llun o wirfoddolwr

Beth wnaf i?

Mae gwirfoddolwyr yn ymwneud ymhob maes o waith Cyfeillion y Ddaear Cymru o weinyddiaeth gyffredinol i ymgyrchu ac ymchwil. Ein nod yw rhoi rolau a phrosiectau penodol i wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo gwaith Cyfeillion y Ddaear Cymru ac yn cynorthwyo gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau a'u profiad. Rydym yn cydnabod bod gan bobl nifer o resymau gwahanol dros fod eisiau gwirfoddoli a phan fo hynny'n bosib ceisiwn ddiwallu anghenion unigol.

Sut byddaf ar fy ennill?

Fel gwirfoddolwr Cyfeillion y Ddaear Cymru byddwch yn datblygu sgiliau newydd ac yn cael profiad gwaith gwerthfawr. Byddwch yn dysgu am faterion amgylcheddol yng Nghymru, yn gwneud cyfeillion newydd ac yn chwarae rhan bwysig yn llwyddiant un o garfanau gwasgu amgylcheddol mwyaf blaenllaw Cymru.

Gwnewch gais nawr!

Diolch am ddod yn wirfoddolwr yng Nghyfeillion y Ddaear Cymru.

Er mwyn gwirfoddoli rhaid i chi fod o fewn pellter teithio rhesymol i Gaerdydd. Gallwn dalu costau cinio a theithio ond ni allwn ariannu llety neu gostau ail-leoli.

I dderbyn pecyn cais gwirfoddolwyr anfonwch eich manylion cyswllt atom. (Ymddiheuriadau. Mae'r ffurflen y cewch eich cyfeirio ati ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)

Dim yn byw yn agos i Gaerdydd ond am wirfoddoli? Ymunwch â'ch grwp Cyfeillion y Ddaear lleol agosaf.

Llun Hawlfraint Cyfeillion y Ddaear Cymru


Ddatganiadau i'r wasg Newyddion Pwyso am Newid Cymryd Rhan
Diweddariad diwethaf:
Dewislen: Meh 2008
Cynnwys: Gorff 2002