Datganiadau i'r wasg 2007

Cyfarfod ymgynghori Caerdydd ar Ynni Niwclear yn hollol ffug meddai ymgyrchwyr Gwyrdd

09/09/2008

Mae cyfarfod sy'n digwydd yng Nghaerdydd heddiw fel rhan o ymarferiad ymgynghori cyhoeddus y Llywodraeth ar Ynni Niwclear yn hollol ffug yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru.

Bythefnos yn ôl, tynnodd y grŵp ymgyrchu gwyrdd a Greenpeace, WWF UK CND a'r Cynghrair Gwyrdd yn ôl o ymgynghoriad cyhoeddus y Llywodraeth ar ynni niwclear gan nad ydynt am gefnogi ymgynghoriad sy'n llawn o ddiffygion.

Meddai Neil Crumpton, Ymgyrchydd Niwclear ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru ac aelod gweithgar o grŵp budd deiliaid y Llywodraeth:

"Nid ymgynghoriad cyhoeddus dilys am ynni niwclear yw hwn. Mae'n llawn o ddiffygion ac mae'n eglur bod y Llywodraeth wedi gwneud ei phenderfyniad drosti ei hun i bob pwrpas. Rydym yn ddigon bodlon i drafod pwnc ynni niwclear ond nid ydym am gael rhan yn y ffars diweddaraf hyn o eiddo'r llywodraeth.

"Nid yw ynni niwclear yn cynnig ateb i'r newid yn yr hinsawdd. Byddai rhaglen newydd yn cynhyrchu dim ond 4 y cant o'r ynni i'w defnyddio gan gwsmeriaid yn y DG. Mae'n ddrud ac yn beryglus a byddai'n gadael ar ei ôl mwy o wastraff gwenwynig hyd yn oed i genedlaethau'r dyfodol.

"Mae nifer o ddewisiadau di niwclear ar gael a fyddai'n taclo newid hinsawdd, sicrhau diogelwch ynni a chadw'r golau ymlaen. Byddai atebion fel hyn yn sicrhau na fyddai'r DG yn cael ei chyhuddo o ragrith gan rai o'r gwladwriaethau lle nad yw'r DG am weld ynni niwclear yn cael ei ddatblygu. Dylai'r Llywodraeth fuddsoddi yn yr atebion hyn a sicrhau bod Prydain yn arwain y gad drwy'r byd wrth iddi ddatblygu economi carbon isel sy'n ddiogel a chynaliadwy."

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi tynnu'n ôl o'r ymgynghoriad hwn am nifer o resymau. Maent yn cynnwys:

  • Diffyg opsiynau clir di niwclear o ran y wybodaeth sydd ar gael i hwyluso trafodaeth cyhoeddus.
  • Methiant o ran darparu gwybodaeth ddigonol ynglŷn a pheryglon ynni niwclear megis lledaenu ynni niwclear, polisi tramor sy'n cyfaddawdu a therfysgaeth (gan gynnwys y tensiwn cynyddol ynglŷn ag ynni niwclear yn Iran).
  • Mae'r ymgynghoriad yn cael ei ruthro ar frys mewn cyfnod o 5 mis yn ystod yr haf ac mae'r broses gyfrannu gan grŵp budd deiliad yr NGO wedi ei brysio hefyd. (Argymhellodd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy y dylid cymryd naw mis ar gyfer mater sydd mor gymhleth a dadleuol).
    Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda rhaglen niwclear newydd (er enghraifft, sylwadau gan Gordon Brown yn Nhŷ'r Cyffredin eu bod wedi penderfynu o blaid ynni niwclear sy'n danseilio ymgynghoriad teg).

Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 20229577