- Ein hymgyrchoedd
- Amdanom ni
- Get Involved
- Newyddion
Archive
Cadwch Gymru'n Rhydd o GM
Etholiadau Cynulliad 2003
Ydi Masnach yn Deg?
Fferm wynt fôr Scarweather Sands
Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
Llwyddiant yr ymgyrch fferm wynt
Bwganod Brain Cymru yn mynnu cael caeau di-GM!
Mae'r hinsawdd yn newid, mae'n bryd holi cwestiynau
Ailgylchu yn dechrau o ddifri yn Sir Fynwy
Llywodraeth y DU yn ailagor dadl ynni niwclear
Newport Big Ask Live gig
Green Question Time
A greener Wales - making it happen
Datganiadau i'r wasg
Welsh Government M4 consultation failure
Severn Barrage makes no sense for jobs, energy or environment
Assembly committee warns of dangers of waste incineration
Ruling confirms Anglesey campaigners’ anti-wind myths as misleading
Fossil fuels mean a grim future for Welsh jobs
International statesman visits Wales to find out about world-leading environmental law
Severn barrage not the solution for economy or energy
Fukushima company could run Anglesey nuclear plant
EC starts legal action against UK Government over damaging Pembroke power station
Serious concerns raised over Wales’ air pollution
Silk: Government energy chief never been to Wales
To frack or not: catastrophe or prosperity for Wales
Wales votes for action on climate change
Welsh draft action plan for bees and other pollinators welcomed
Renewable energy eight times more popular than fossil fuels
Severn barrage sunk
More ambition needed on emissions
No economic gain from £1 billion motorway
Welsh Government capitulates to house building industry
Government help for farmers and communities to protect bees
Welsh Government to do nothing to protect Wales from fracking
Past press releases
Datganiadau i'r wasg 2012
Datganiadau i'r wasg 2011
Datganiadau i'r wasg 2009
Datganiadau i'r wasg 2008
Datganiadau i'r wasg 2007
Datganiadau i'r wasg 2006
Datganiadau i'r wasg 2005
Datganiadau i'r wasg 2004
Datganiadau i'r wasg 2003
Datganiadau i'r wasg 2002
Datganiadau i'r wasg 2001
Datganiadau i'r wasg 2000
- Adnodd
Mwyafrif yr ASau Cymreig o blaid deddf newid hinsawdd
12 Hyd 2006
Mae mwyafrif yr ASau Cymreig o blaid galwadau am gyflwyno deddf newid hinsawdd pan fydd y Senedd yn ail gynnull. Byddai'r ddeddf hon yn ymrwymo'r DG i leihau allyriadau carbon ddeuocsid yn flynyddol, fel mae ymgyrch hinsawdd Cyfeillion y Ddaear, Yr Her Fawr yn ei ofyn.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi canmol y 28 AS Cymreig a arwyddodd gynnig o blaid y ddeddf yn sgil y pryder cynyddol am oblygiadau newid hinsawdd i'r ardal hon ac ym mhob rhan o'r byd.. Mae nifer o'r 40 AS Cymreig wedi methu arwyddo'r cynnig oherwydd eu swyddogaethau gweinidogol o fewn y Llywodraeth.
Mae dros hanner yr ASau yn Nhy'r Cyffredin sy'n cynrychioli mwyafrif o bob plaid wleidyddol o blaid cyflwyno deddf i dorri allyriadau carbon ddeuocsid yn flynyddol [1].
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd ASau Cymreig yn wynebu cwestiynau caled am newid hinsawdd gan etholwyr sy'n cymryd rhan mewn mis o weithredu o blaid ymgyrch Cyfeillion y Ddaear. Bydd pobl leol yn gofyn i'w haelodau seneddol i ysgrifennu at y Prif Weinidog gan ddangos yr angen am ddeddf newid hinsawdd a'i chynnwys fel rhan o Araith y Frenhines ym mis Tachwedd.
Meddai llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gordon James:
"Rydym yn falch iawn gyda'r gefnogaeth a gawsom gan ASau Cymreig ynglyn â'n hymgyrch ar gyfer deddf newydd i helpu mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae bron pob AS yng Nghymru oedd yn gallu arwyddo Cynnig Cynnar yn y Dydd wedi gwneud felly. Credwn fod hyn yn adlewyrchu'r pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd ynglyn â'r bygythiad a wynebwn gan newid hinsawdd a'r angen am weithredu effeithlon.
"Os na fyddwn yn atal newid hinsawdd, bydd pobl ledled y byd, gan gynnwys Cymru, yn wynebu trychineb. Gan fod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn byw ar yr arfordir neu'n agos ati, er enghraifft, mae'n debyg y byddent yn profi'r effeithiau o lefelau'r môr yn codi a thywydd mwy stormus.
"Fodd bynnag, gall yr ardal hon fod o flaen y gad wrth iddi roi yr atebion i newid hinsawdd ar waith. Mae digonedd o adnoddau naturiol gan Gymru megis pwer o'r gwynt, o'r tonnau ac o'r llanw a gellid eu harneisio i greu ynni glan gan ddod â lles i'r economi hefyd.
"Mae pobl yn sylweddoli pa effaith fydd newid hinsawdd yn ei chael ar eu bywydau a bywydau eu plant ac mae'n iawn eu bod yn poeni felly. Ond gellid osgoi newid hinsawdd beryglus pe bai llywodraethau yn gweithredu'n benderfynol a hynny ar frys. Byddai deddf yn sicrhau bod y DG yn torri'r allyriadau angenrheidiol.
"Byddai'r ddeddf hon yn rhoi'r hyder i'r Llywodraeth ac i fusnesau i fuddsoddi yn yr atebion i newid hinsawdd. Byddai'n sicrhau bod y DG yn chwarae ei rhan yn y gwaith o gadw'r tymheredd o dan lefelau peryglus ac yn gosod patrwm i bawb arall ei ddilyn."
Ddoe (Hydref 10fed) ymgynullodd nifer o ASau y tu allan i'r Ty Cyffredin i gwrdd ag actores sy'ngwisgo fel y Brenhines i dynnu sylw i'r angen am ddeddf newid hinsawdd i'w chynnwys fel rhan o araith y Frenhines pan agorir y Senedd ym mis Tachwedd. Roedd rhai o'r ASau Cymreig hyn yn bresennol gan gynnwys, Lebmit Opik, Paul Flynn, Roger Williams, John Smith, Mark Williams, Jenny Wilmott a Hywel Williams.
Darllenir Araith y Frenhines gan y Frenhines pan fydd sesiwn newydd San Steffan yn cychwyn, ond penderfynir ar ei chynnwys gan y Prif Weinidog a'r Cabinet. Cyflwyna'r Mesurau y bydd y Llywodraeth yn rhoi gerbron y Senedd ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Bydd angen cynnwys Mesur Newid Hinsawdd yn yr araith i ddangos bod y Llywodraeth am roi amser i'r Senedd i drafod a phasio Mesur fel hyn yn ddeddf.
Mae Cyfeillion y Ddaear yn aelod hefyd o'r glymblaid Stopiwch Anhrefn Hinsawdd sy'n lansio'r ymgyrch " Fi sy'n cyfrif" heddiw. Bwriedir "Fi sy'n cyfrif" er mwyn ysbrydoli gweithredu personol a gwleidyddol a gwrthweithio'r syniad bod newid hinsawdd yn broblem sy'n rhy fawr i'w datrys. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan : http://www.icount.org.uk
DIWEDD
NODIADAU AR GYFER GOLYGWYR
[1] Mae 393 o ASau - dros hanner o'r ASau yn y DG ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi arwyddo Cynnig Cynnar yn y Dydd (EDM) 178 sy'n galw am ddeddf newid hinsawdd. Dylid nodi nad yw'n gonfensiwn i weinidogion y Llywodraeth arwyddo Cynigion Cynnar yn y Dydd. Ceir manylion llawn o'r Cynnig Cynnar yn y Dydd gan glicio :
http://edmi.parliament.uk/EDMi/EDMDetails.aspx?EDMID=28373
Mae'r 28 AS Cymreig a gefnogodd galwadau am ddeddf newid hinsawdd yn
cynnwys:
Martin Caton, Plaid Lafur, Gwyr
Stephen Crabb, Plaid Geidwadol, Preseli Sir Benfro
David Davies, Plaid Geidwadol, Mynwy
Paul Flynn, Plaid Lafur, Gorllewin Casnewydd
Hywel Francis, Plaid Lafur, Aberafon
Nia Griffith Plaid Lafur, Llanelli
Dai Havard Plaid Lafur, Merthyr Tudfil and Rhymni
Sian James Plaid Lafur, Dwyrain Abertawe
Martyn Jones, Plaid Lafur De Clwyd
David Jones, Plaid Geidwadol, Gorllewin Clwyd
Elfyn Llwyd, Plaid Cymru, Meirionnydd Nant Conwy
Madeline Moon, Plaid LafurPenybont ar Ogwr
Jessica Morden, Plaid Lafur Dwyrain Casnewydd
Julie Morgan, Plaid Lafur De Caerdydd
Paul Murphy, Plaid Lafur, Torfaen
Lembit Opik Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Trefaldwyn
Albert Owen Lafur, Ynys Môn
Adam Price, Plaid Cymru, De Caerfyrddin a Dinefwr
Chris Ruane, Plaid Lafur, Dyffryn Clwyd
John Smith, Plaid Lafur, Bro Morgannwg
Mark Tami, Plaid LafurAlun a Dyfrdwy
Roger Williams, Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Brycheiniog a Maesyfed
Betty Williams Plaid Lafur, ConwyMark Williams, Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Ceredigion Hywel Williams, Plaid Cymru, Caernarfon Jenny Willott Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol Canol Caerdydd Dai Davies, Annibynnol, Blaenau Gwent Don Touhig, Plaid Lafur (Cydweithredol), Islwyn
Mae ASau nad ydynt eto wedi cefnogi galwadau am ddeddf newid hinsawdd yn
cynnwys:
* Nick Ainger, Plaid Lafur, Gorllwein Sir Caerfyrddin a De Sir Benfro Kevin Brennan, Plaid Lafur, Gorllewin Caerdydd Chris Bryant, Plaid Lafur, Rhondda
* Ann Clwyd, Plaid Lafur, Cwm Cynon
Wayne David Plaid Lafur, Caerffili
* Peter Hain, Plaid Lafur, Castell Nedd
* David Hanson, Plaid Lafur, Delyn
* Kim Howells, Plaid Lafur, Pontypridd
* Huw Irranca-Davies, Plaid Lafur, Ogmore Alan Williams, Plaid Lafur, Swansea West Alun Michael, Plaid Lafur, Cardiff South & Penarth
* Ian Lucas, Plaid Lafur, Wrexham
* Nad yw'n gonfensiwn i weinidogion y Llywodraeth arwyddo Cynigion Cynnar yn y Dydd



