Datganiadau i'r wasg 2006

Her i wleidyddion weithredu nawr ar newid hinsawdd

23 Hyd 2006

Rhaid inni dorri allyriadau carbon ddeuocsid yn fuan i atal canlyniadau trychinebus. Rhoddwyd y neges eglur hon i wleidyddion blaenllaw yng Nghymru gan sefydliad amgylcheddol blaenllaw.

Mewn llythyr i arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi rhoi her iddynt wynebu newid hinsawdd gan osod targedau cadarn i dorri allyriadau carbon ddeuocsid ym mhob maniffesto ar gyfer etholiadau'r flwyddyn nesaf. Cred y grŵp bod y pwerau presennol a phwerau newydd ar gael i'r Cynulliad sy'n golygu bod ganddo'r gallu i dorri allyriadau carbon ddeuocsid gan o leiaf 3% yn flynyddol.

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, mae tystiolaeth wyddonol yn dangos bod newidiadau i'r hinsawdd oherwydd gweithgarwch pobl yn digwydd yn gynt ac yn fwy difrifol na'r disgwyl[1]. Yn neilltuol, cyfeiria'r grŵp at y dystiolaeth sy'n dangos y gallai'r hinsawdd fyd-eang fod yn agos i'r pwynt di- droi'n ôl lle bydd newidiadau cyflym a di- droi'n ôl yn debygol o ddigwydd i'r hinsawdd [2].

Meddai llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru Gordon James:

"Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf a gafodd ein gwareiddiad erioed. Eto bu'r ymateb gwleidyddol i'r dystiolaeth wyddonol yn alaethus. Wrth i wleidyddion siarad, dal i godi mae allyriadau carbon ddeuocsid a bygythir llawer mwy o bobl gan batrymau tywydd eithafol [3].

"Mae llawer o'r atebion megis gwelliannau i effeithlonrwydd ynni, datblygiadau ynni adnewyddadwy a thrafnidiaeth lanach yn bod eisoes. Beth sydd ei angen yw'r ewyllys gwleidyddol i weithredu'r mesurau hynny."

Danfonwyd copi o adroddiad a wnaed yn ddiweddar gan Ganolfan Tyndall ar gyfer Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Manceinion i wleidyddion ac ynddo fe'n rhybuddir am ddifrifoldeb yr argyfyngau a dangosir inni hefyd ba fesurau sydd angen eu gweithredu i osgoi'r effeithiau gwaethaf o ran newid hinsawdd [4].

Mae'r adroddiad yn datgan y gellid torri allyriadau carbon ddeuocsid gan 90% erbyn 2050 heb yr angen i newid ein ffordd o fyw'n sylfaenol neu ddefnyddio ynni niwclear. Ond os na weithredwn ar frys gofynnir am weithredu llymach ac anoddach i'w reoli er mwyn sicrhau torri allyriadau yn y dyfodol.

 Gordon James yn ei flaen gan ddweud:

"Er mwyn inni wireddu argymhellion yr adroddiad hwn yng Nghymru, credwn fod angen ymrwymiad gan y prif bleidiau gwleidyddol i gefnogi toriadau blynyddol o 3% o leiaf mewn allyriad carbon ddeuocsid. Os na fydd hyn yn digwydd, bydd gwleidyddion yn dal i osod materion tymor byr o flaen y penderfyniadau tymor
hir hynny sydd eu hangen i fynd i'r afael a newid hinsawdd."

Mae'r alwad am weithredu yng Nghymru yn adlewyrchu'r ymdrechion a wnaed gan Gyfeillion y Ddaear i gyflwyno deddf a fyddai'n gorfodi Llywodraeth San Steffan i sicrhau torri allyriadau carbon ddeuocsid yn flynyddol. Dyna fu brif amcan yr ymgyrch lwyddiannus honno gan Gyfeillion y Ddaear, sef, Yr Her Fawr [5]. a gafodd 400 AS yn arwyddo eu cefnogaeth ar gyfer mesur newid hinsawdd. Dywedwyd yn ddiweddar bod y Llywodraeth erbyn hyn yn debygol o gynnwys y mesur hwn fel rhan o Araith y Frenhines.

Meddai Gordon James ymhellach:

"Hyd yn oed gyda'i rymoedd cyfyngedig, dylai fod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud neu fod wedi gwneud llawer iawn mwy i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Gan y bydd pwerau newydd ar gael cyn bo hir i'r Cynulliad o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, gobeithiwn y gwelwn lai o siarad â rhagor o weithredu.

"Yn fwy nag erioed, mae angen gwleidyddion dewr sy'n barod i weithredu'n radicalaidd i sicrhau bod dyfodol i'n plant a'n wyrion ar y blaned hon."

Ar ddydd Mercher Hydref 25ain bydd Llywodraeth y Cynulliad yn lansio Grŵp Newid Hinsawdd Croes Sector yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Disgwylir y bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Carwyn Jones yn gwneud datganiad ynghylch newid hinsawdd.

NODIADAU

  1. Dros yr wythnosau diwethaf mae'r pethau hyn wedi dod i'n sylw:
    • Mae astudiaeth gan y Swyddfa Tywydd wedi dod i'r casgliad bod y tymheredd cyfartalog yng nghanol Lloegr wedi codi o 1°Celsiws mewn cwta 50 mlynedd. Er mwyn osgoi newid hinsawdd drychinebus, mae gwyddonwyr yn amcangyfrif bod angen inni rwystro tymereddau cyfartalog y byd rhag codi'n fwy na 2°Celsiws i'r hyn oeddent cyn y cyfnod diwydiannol.
    • Cafwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Arolwg Prydeinig o'r Antarctig, yr Athro Chris Rapley, oedd yn dweud bod lefel y môr ar draws y byd, yn codi'n gynt nag a ragwelwyd gan wyddonwyr y Cenhedloedd Unedig dim ond 5 mlynedd yn ôl, a hynny oherwydd newid hinsawdd.
    • Cofnodwyd lleihad o 14% o ran iâ parhaol yr Arctig rhwng 2004 a 2005 gan loeren NASA. Mae hyn yn cymharu â lleihad o 0.7% yn ystod y blynyddoedd cyn hynny.
  2. Mae gohebydd gwyddoniaeth y BBC, David Shukman wedi'n hysbysu bod iâ parhaol Siberia yn dadmer yn llawer gynt na'r disgwyl gan ein bygwth â gollyngiadau enfawr o'r nwy tŷ gwydr, methan, sy'n un nerthol.
  3. Mynegir pryder ar hyn o bryd bod mecanweithiau adborth cadarnhaol fel wyneb tywyll dwr yr Arctig sy'n amsugno gwres yn hytrach na'i adlewyrchu wrth i'r eira a'r iâ leihau, yn ein gwthio'n agos i bwyntiau di droi'n ôl - tu hwnt i'r pwyntiau hyn mae newidiadau cyflym a di- droi'n ôl i'r hinsawdd yn debygol. Cafwyd rhybudd yn gynharach y mis hwn gan un o hinsoddegwyr blaenaf y byd, James Hanson, "bod cyfle byr gennym i fynd i'r afael â newid hinsawdd... dim mwy na degawd ar y mwyaf."
  4. Hysbysodd yr Athro Andy Haines, sy'n Ddeon yn yr Ysgol Am Hylendid a Meddyginiaeth Trofannol wrth Gynhadledd Newid Hinsawdd y Byd ym Moscow ym mis Hydref 2003 fod gwresogi byd-eang bellach yn gyfrifol am oddeutu 160,000 o farwolaethau yn flynyddol o afiechydon a newyn".
  5. Cewch weld yr Adroddiad Tyndall cyflawn a gomisiynwyd ar y cyd gan Gyfeillion y Ddaear a'r Banc Cydweithredol drwy glicio: www.foe.co.uk/resource/reports/living_carbon_budget.pdf
    Cewch grynodeb 20 tudalen ohono drwy glicio: www.foe.co.uk/resource/reports/low_carbon_economy.pdf
    Ewch i: www.foe.co.uk/campaigns/climate/success_stories/half_mps.html

COPO O'R LLYTHYR I ARWEINWYR PLEIDIAU YN Y CYNULLIAD


Hydref 13eg 2006

Annwyl ,

Mae'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r dystiolaeth gynyddol am y bygythiad difrifol a ddaw yn sgil newid hinsawdd. Bob dydd bron clywir am ymchwil gwyddonol newydd sy'n dangos bod gweithgarwch pobl yn peri newidiadau difrifol i hinsawdd y byd a bod yr effeithiau hynny yn digwydd yn gynt a gyda mwy o ddifrifoldeb na'r disgwyl.

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r pethau hyn wedi dod i'n sylw:

  • Mae astudiaeth gan y Swyddfa Tywydd wedi dod i'r casgliad bod y tymheredd cyfartalog yng nghanol Lloegr wedi codi o 1°Celsiws mewn cwta 50 mlynedd. Er mwyn osgoi newid hinsawdd drychinebus, mae gwyddonwyr yn amcangyfrif bod angen inni rwystro tymereddau cyfartalog y byd rhag codi'n fwy na 2°Celsiws i'r hyn oeddent cyn y cyfnod diwydiannol.
  • Cafwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Arolwg Prydeinig o'r Antarctig, yr Athro Chris Rapley, oedd yn dweud bod lefel y môr ar draws y byd, yn codi'n gynt nag a ragwelwyd gan wyddonwyr y Cenhedloedd Unedig, a hynny oherwydd newid hinsawdd.
  • Cofnodwyd lleihad o 14% o ran iâ parhaol yr Arctig rhwng 2004 a 2005 gan loeren NASA. Mae hyn yn cymharu â lleihad o 0.7% yn ystod y blynyddoedd cyn hynny.
  • Mae gohebydd gwyddoniaeth y BBC, David Shukman wedi'n hysbysu bod iâ parhaol Siberia yn dadmer yn llawer gynt na'r disgwyl gan ein bygwth â gollyngiadau enfawr o'r nwy tŷ gwydr, methan, sy'n un nerthol.

Mynegir pryder ar hyn o bryd bod mecanweithiau adborth cadarnhaol fel wyneb tywyll dwr yr Arctig sy'n amsugno gwres yn hytrach na'i adlewyrchu wrth i'r eira a'r iâ leihau, yn ein gwthio'n agos i bwyntiau di droi'n ôl - tu hwnt i'r pwyntiau hyn mae newidiadau cyflym a di droi'n ôl i'r hinsawdd yn debygol. Cafwyd rhybudd yn gynharach y mis hwn gan un o hinsoddegwyr blaenaf y byd, James Hanson, "bod cyfle byr gennym i fynd i'r afael â newid hinsawdd... dim mwy na degawd ar y mwyaf."

Cafwyd adroddiad o'r Ganolfan Tyndall enwog honno ar gyfer Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Manceinion y mis hwn a gomisiynwyd ar y cyd gan Gyfeillion y Ddaear a'r Banc Cydweithredol a daethant i gasgliad cyffelyb. Yr adroddiad hwn "Byw o fewn terfynau Cyllideb Carbon" yw'r asesiad mwyaf cynhwysfawr a realistig am economi ynni hir dymor y DG a gyhoeddwyd erioed. Fe ddengys bod rhaid inni leihau allyriadau carbon ddeuocsid yn sylweddol a dechrau arni yn fuan. Bydd unrhyw oedi yn gofyn am weithredu llyn a thoriadau sy'n anodd eu rheoli wedyn.

Daw'r adroddiad i ben gan ddweud nad yw nod y Llywodraeth o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan 60% erbyn 2050 yn ddigonol os bydd y DG yn gweithredu'n deg wrth leihau allyriadau. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn dangos yn eglur y gellid cyrraedd y nod o leihau allyriadau gan 90% o fewn y terfyn amser pe caed cyfres o fesurau megis gwelliannau sylweddol mewn effeithlonrwydd ynni, datblygiadau ynni adnewyddadwy a thrafnidiaeth lanach. Gellid gweithredu'r pethau'r hyn heb newid ein ffordd o fyw yn sylweddol a heb yr angen am ddefnyddio ynni niwclear. Mae'r adroddiad yn darparu llwybr taith sy'n disgrifio sut mae'r DG yn gallu newid i fod yn economi carbon isel fel patrwm i weddill y byd gan ddefnyddio fframwaith polisi a chymhwyso technolegau. Gobeithiwn y bydd eich llywodraeth yn archwilio'n hadroddiad ac yn ei ddefnyddio fel cymorth i ddrafftio'ch llwybr taith ynni eich hunain.

Cewch yr adroddiad yn llawn wrth ymweld â: www.foe.co.uk/resource/reports/living_carbon_budget.pdf

Mae gopi argraffedig o'r crynodeb yn amgaeedig..

Cred Cyfeillion y Ddaear ei bod yn angenrheidiol inni gael deddf sy'n ymrwymo Llywodraethau nawr ac yn y dyfodol i dorri allyriadau carbon y DG yn flynyddol er mwyn gwireddu'r argymhellion hyn. Heb y ddeddf hon, bydd gwleidyddion yn dal i osod materion tymor byr o flaen y penderfyniadau tymor hir hynny sydd eu hangen i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Gwaetha'r modd, nid yw allyriadau carbon y DG wedi gostwng ers 1990: mae cyfrifiadau'r llywodraeth sy'n dangos gostyngiad yn gamarweiniol gan nad ydynt yn cyfrif yr allyriadau hynny sy'n dod o longau ac awyrennau rhyngwladol.

Mae ymgyrch hinsawdd Cyfeillion y Ddaear, Yr Her Fawr, yn galw ar ASau i gefnogi mesur newid hinsawdd a fyddai'n gorfodi llywodraethau'r DG i gyflwyno mesurau i sicrhau toriadau blynyddol o 3% o leiaf mewn allyriadau carbon ddeuocsid. Mae'r mwyafrif o ASau, gan gynnwys mwyafrif o'r Blaid Lafur wedi arwyddo'r Cynnig Cynnar yn y Dydd hwn (EDM) eisoes. Galwn yn awr ar y Llywodraeth i sicrhau bod mesur newid hinsawdd yn cael ei gynnwys fel rhan o Araith y Frenhines ym mis Tachwedd.

Mae data swyddogol yng Nghymru yn dangos fel y bu gostyngiad o allyriadau'r holl nwyon tŷ gwydr o ddim ond 3.6% rhwng 1990 a 2003, o'i gymharu â gostyngiad o 13.4% yn y DG ar y cyfan. Ar gyfer y prif nwy tŷ gwydr, carbon ddeuocsid, mae'r ffigyrau yn dangos na fu gostyngiad mewn allyriadau yng Nghymru yn y cyfnod hwn o'i gymharu â gostyngiad o 5.6%(ac eithrio awyrennau a llongau rhyngwladol) yn y DG. Er bod cyfran uwch o ddiwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru o'i chymharu â gweddill y DG yn gallu helpu esbonio'r ffigyrau hyn, does dim dwywaith bod Cymru yn wynebu sialens arwyddocaol er mwyn cyflawni ei chyfran deg o dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Galwn felly ar arweinwyr y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i gefnogi amcanion y mesur newid hinsawdd arfaethedig ac i wneud ymrwymiad yn eu datganiadau ar gyfer etholiadau'r Cynulliad mis Mai nesaf y byddant yn sicrhau gostyngiad blynyddol o 3% o leiaf mewn allyriadau carbon ddeuocsid o Gymru. Credwn y dylid achub ar y cyfle sydd gennym yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i ostwng allyriadau.

Gobeithiwn y bydd y Blaid yn cytuno i wneud yr ymrwymiad hwn.

Yn gywir,

Gordon James
Ymgyrchydd Cynulliad

Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 20229577