Datganiadau i'r wasg 2002

Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ymgynghori ar ddrafft ei Gynllun yr Iaith Gymraeg

Heddiw lansiodd Cyfeillion y Ddaear (CYDd), Cymru ddrafft ei Gynllun yr Iaith Gymraeg yn swyddogol (1) ac mae'n gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn y modd y mae'n cyflwyno ei wasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg i gynnig sylwadau (2).

Mae'r cynllun yn amlinellu ymroddiad CYDd Cymru i'r Gymraeg yn ogystal â rhestru pa wasanaethau y bydd yn eu cyflwyno'n ddwyieithog i bobl Cymru. Mae hyn yn cynnwys ateb y ffôn, cyfathrebiaeth, digwyddiadau a chyfarfodydd, cyhoeddiadau, a'r cyfryngau. Mae CYDd hefyd yn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i ddysgu a gwella eu Cymraeg.

Dywedodd Julie Lewis, Swyddog Gwybodaeth ac Ymgyrchoedd:

"Mae CYDd Cymru yn benderfynol o gyflwyno gwasanaeth dwyieithog i bobl Cymru. Er mwyn cael ein polisi yn iawn mae'n bwysig fod pawb yn cael y cyfle i gynnig sylwadau. Gobeithiwn y bydd y cyhoedd a chyrff sydd â diddordeb yn manteisio ar y cyfle i roi eu barn".

Os oes rhywun am gynnig sylwadau gallwch ddadlwytho copi o'r cynllun o wefan CYDd yn: www.foe.co.uk/campaigns/ ¬
local_groups_and_campaigns/wales.htm
Neu gysylltu â CYDd Cymru am gopi; ffôn: 029 20229577 E bost : [email protected]

NODIADAU

1. Ysgrifennwyd polisi drafft CYDd Cymru gyda chefnogaeth a sylwadau gan Menter Caerdydd a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

2. Gwahoddir sylwadau hyd at 30ain Ebrill 2002