- Ein hymgyrchoedd
- Amdanom ni
- Get Involved
- Newyddion
Cyfredol
Climate science: Countering the myths
A greener Wales - making it happen
Ailgylchu yn dechrau o ddifri yn Sir Fynwy
Beth fyddai'n well gennych chi: ynni gwynt neu ynni niwclear?
Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
Bwganod Brain Cymru yn mynnu cael caeau di-GM!
Cadwch Gymru'n Rhydd o GM
Coal in Wales
Dyfodol ynni yng Nghymru...
Environmental campaigning - What can I do?
Etholiadau Cynulliad 2003
Fferm wynt fôr Scarweather Sands
Green Question Time
Llwyddiant yr ymgyrch fferm wynt
Llywodraeth y DU yn ailagor dadl ynni niwclear
Mae'r hinsawdd yn newid, mae'n bryd holi cwestiynau
Newport Big Ask Live gig
Ydi Masnach yn Deg?
Ynni gwynt: 20 Myth Yn Mynd Gyda’r Gwynt
Dai the Dragon demands action at global climate talks
Merthyr defeats massive rubbish incinerator
'Hawl i holi' etholiadau'r Cynulliad o amgylch Cymru
Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach
- Adnodd
Gallai pwerau newydd y cynulliad roi'r hawl i bobl a'r amgylchedd gael dyfodol iach9 March 2011
09 Mawrth 2011
Mae hawliau amgylcheddol, lleihau allyriadau nwy tŷ gwydr a chartrefi cynnes yn gonglfeini 'Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach' Cyfeillion y Ddaear Cymru [1], sydd i'w lansio Ddydd Gwener 11 Mawrth [2].
Dywedodd Gordon James, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
"Mae 'Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach' Cyfeillion y Ddaear Cymru yn amlinellu agenda realistig ar gyfer y Llywodraeth Cynulliad nesaf a fyddai'n ysbrydoli atebion ac yn cynnig gweledigaeth o ddyfodol cadarnhaol.
"Gallai Deddf Hawliau Amgylcheddol amddiffyn pobl Port Talbot rhag llygredd aer peryglus, a gwarchod cymunedau yn y Cymoedd rhag rhagor o byllau glo brig ar garreg eu drws. Gallai hefyd ddiogelu ein safleoedd bywyd gwyllt gorau, gan nad yw hyn yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan ddeddfau o Ewrop a Llundain.
"Mae datblygu cynaliadwy i fod wrth galon polisi ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad. Ond yn gyfreithiol, nid yw hyn yn golygu dim mwy na gwneud hi'n ddyletswydd ar weinidogion i siarad am y mater. Byddai Deddf Hawliau Amgylcheddol yn gwneud yn siŵr na fyddai unrhyw benderfyniad a wneir gan Lywodraeth y Cynulliad, nac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru, yn gallu torri ar hawliau pobl yng Nghymru i fyw mewn amgylchedd iach.
"Arweiniodd Llywodraeth y Cynulliad y byd wrth ymrwymo i leihau allyriadau nwy tŷ gwydr gan 3 y cant bob blwyddyn. Ond nawr, wrth i ragor o wledydd ddilyn ein hesiampl, dengys y dystiolaeth wyddonol bod angen toriadau gan 9 y cant er mwyn osgoi newid hinsawdd peryglus. Dyma ddylai fod y targed newydd yma yng Nghymru, ac rydym angen polisïau a gweithredu a fydd yn cyflawni hyn.
"Mae tai yn cynhyrchu tua un rhan o bump o allyriadau nwy tŷ gwydr Cymru, ac mae tlodi tanwydd yn fwrn ar un o bob pedwar cartref.
"Dylai deddfwriaeth newydd sicrhau safonau gofynnol ar gyfer effeithlonrwydd ynni ym mhob cartref. Dylai o leiaf 400,000 o gartrefi yng Nghymru gael eu hadnewyddu er mwyn torri eu hallyriadau carbon gan 60 y cant dros y 10 mlynedd nesaf - gan leihau biliau tanwydd, creu swyddi lleol newydd, gwella iechyd a thorri allyriadau carbon."
"Mae'r pwerau newydd, a phedwerydd tymor Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfle ardderchog i gyflawni polisïau amgylcheddol uchelgeisiol sy'n gweithio er budd pobl a'r amgylchedd - a chynorthwyo Cymru i elwa o'r economi werdd sy'n tyfu'n gyflym."
Nodiadau
1. Lawrlwytho 'Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach': http://www.foe.co.uk/resource/briefing_notes/cymru_green_manifesto_2011.pdf
2. Caiff Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach ei lansio yn 'Hawl i Holi Gwyrdd' Cyfeillion y Ddaear Cymru, Ddydd Gwener 11 Mawrth yn Ystafell Dderbyniad yr Arglwydd Faer, Neuadd Brangwyn, Neuadd y Dref, Abertawe SA1 4PE. Drysau'n agor 7pm Cyfarfod yn dechrau 7.30pm.
Yn ateb cwestiynau'r gynulleidfa fydd Mark Drakeford (Ymgeisydd Gorllewin Caerdydd, Llafur), Jake Griffiths (Arweinydd, Plaid Werdd Cymru), Dr Dai Lloyd AC (Gorllewin De Cymru, Plaid Cymru), Owen Meredith (Ymgeisydd Caerffili, Ceidwadwyr) a Kirsty Williams AC (Arweinydd, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 20229577



Discuss "Gallai pwerau newydd y cynulliad roi'r hawl i bobl a'r amgylchedd gael dyfodol iach" in our forum