Datganiadau i'r wasg 2008

Gweithredu uniongyrchol ar newid hinsawdd yn anochel

1 Ebr 2008

Dywedwyd wrth rali yn erbyn cloddio glo brig yn Ffos-y-Fran, Merthyr, a gynhaliwyd ar Ddydd Sadwrn (Ebrill 5ed) fod gweithredu uniongyrchol ar faterion newid hinsawdd yn anochel ac y mae'n bosibl y gwelir rhagor o hyn yn y dyfodol. Ar ôl y rali cafwyd gorymdaith drwy'r dref gyda phobl leol yn ymuno â rhai fu'n cymryd rhan mewn gweithredu uniongyrchol yng Ngorsaf Bŵer Aberddawan a safle glo brig Ffos-y-Fran.

Meddai Cyfarwyddwr Cyfeilion y Ddaear Cymru Gordon James:

"Mae'r penderfyniad gan Lywodraeth y Cynulliad i fwrw ymlaen gyda safle Ffos-y-Fran mor agos i gartrefi yn warthus. Ers hyn, cyhoeddwyd drafft o'r polisi cynllunio sy'n datgan bod angen bwlch o 500 medr rhwng y gweithgareddau mwyngloddio ac eiddo pobl oherwydd yr effeithiau annerbyniol sy'n dod yn sgîl cloddio glo brig.

"Roedd hyn yn cydnabod fod y dadleuon a gyflwynwyd gan bobl leol yn gywir. Eto gwrthododd Llywodraeth y Cynulliad ddiddymu'r caniatâd cynllunio. Pan na fydd pobl yn cael cyfiawnder gan eu cynrychiolwyr gwleidyddol, ni ddylai neb synnu bod gweithredu uniongyrchol yn dilyn.

"Mae pobl yn troi at weithredu uniongyrchol yn amlach gan nad yw gwleidyddion yn ymateb yn ddigonol i'r bygythiad enfawr oddi wrth newid hinsawdd. Er bod yna gryn dipyn o rethreg, mae polisïau i dorri allyriadau carbon deuocsid yn dal i fod yn rhy wan.

"Mae un o brif wyddonwyr hinsawdd y byd James Hanson wedi rhybuddio y gallai lefel y môr godi hyd at 5 medr y ganrif hon os bydd pethau'n parhau fel y maent yn bresennol.1 Gan mai llosgi glo yw prif ffynhonnell allyriadau carbon ddeuocsid sy'n achosi newid hinsawdd, meddai, dylid cael gwared ag ef cyn gynted â phosibl.2

"Eto yng Nghymru rydym o debyg o weld cynnydd o tua saith i ddeg miliwn dunnell y flwyddyn yn yr allyriadau sy'n tarddu o orsaf bŵer Aberddawan, ein prif ffynhonnell llygredd.

DIWEDD

1. New Scientist, Gorffennaf 28ain 2007
2. Llythyr gan James Hanson at y Prif Weinidog Gordon Brown, Rhagfyr 12fed 2007

Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 20229577