Datganiadau i'r wasg 2008

Llywodraeth y DG yn esgeuluso cartrefi ar dlodi tanwydd

02 Hyd 2008

Mae Llywodraeth y DG yn methu cyflawni ei ymrwymiad1 i ddiddymu'r tlodi tanwydd2 sy'n effeithio ar bron i chwarter miliwn o gartrefi yng Nghymru3, yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ei adroddiad am gynnydd blynyddol strategaeth tlodi tanwydd4 mae llywodraeth y DG yn cyfaddef bod tlodi tanwydd wedi cynyddu ers 2004 ac y bydd yn methu yn ei tharged cyfreithiol i ddiddymu tlodi tanwydd ar gyfer cartrefi bregus erbyn 2010.

Amcangyfrifir na fydd dros bum miliwn o gartrefi yn y DG yn gallu fforddio gwresogi a phweru eu cartrefi yn iawn y gaeaf hwn, ac y bydd mwy na 20,000 o bobl yn marw oherwydd yr oerni. Mae tlodi tanwydd ar i fyny yn sgil costau tanwydd cynyddol6,ond yn ôl amgylcheddwyr, mae diffyg gweithredu gan y Llywodraeth yn cael y bai hefyd.

Meddai Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gordon James:

"Mae tlodi tanwydd yn dod yn drychineb cenedlaethol yn gyflym iawn wrth i i lywodraethau'r DG a'r Cynulliad Cenedlaethol fethu cwrdd â'u dyletswydd gyfreithiol i ddiddymu tlodi tanwydd o bell ffordd. Mae teuluoedd cyffredin yn teimlo'r boen, ac mae'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas yn dioddef ac yn marw oherwydd y "trawiad dwbl" o brisiau tanwydd cynyddol a chartrefi sydd heb eu hinsiwleiddio'n iawn.

"Dylid gwneud gymaint mwy i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ac insiwleiddio pobl rhag codiadau prisiau tanwydd llawer uwch na lefel chwyddiant. Yn ogystal â lleihau biliau tanwydd, mae'r mesurau hyn yn gwella lles ac iechyd yn y cartref, yn torri allyriadau nwyon sy'n achosi newid hinsawdd megis carbon deuocsid, yn creu swyddi ac yn rhoi hwb i economïau lleol.

"Mae o leiaf 27% o allyriadau carbon ddeuocsid yn y DG yn dod o gartrefi. Gan fod rhagolygon gwyddonol am newid hinsawdd yn peri pryder cynyddol, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu i leihau'n defnydd o ynni ac allyriadau yn ein cartrefi.

"Mae Llywodraeth y Cynulliad bellach yn drafftio cynllun arbedion ac effeithlonrwydd ynni cenedlaethol, ac mae'n rhaid iddi fod o flaen y gad gyda'r mater pwysig hwn. Mae Llywodraeth y DG yn esgeuluso'r cartrefi tlotaf a mwyaf bregus yng Nghymru - ni ddylai Llywodraeth y Cynulliad weithredu yn yr un modd, ond yn hytrach sicrhau bod tlodi tanwydd ac allyriadau carbon yn cael eu torri yng Nghymru.

"Dim ond buddsoddiad o dros £3 biliwn bob blwyddyn fydd yn sicrhau na fydd rhaid i deuluoedd bregus ddewis rhwng bwyta a gwresogi eu cartrefi ac y gwneir toriadau digonol mewn cartrefi o allyriadau nwyon sy'n achosi newid hinsawdd."

Mae Cyfeillion y Ddaear yn rhan o glymblaid grwpiau elusennau a defnyddwyr a lansiodd siarter tlodi tanwydd deg pwynt. Geilw am raglen genedlaethol fawr i ddod â phob adeilad i safon effeithlonrwydd ynni uchel ac am gefnogi systemau ynni adnewyddadwy ar raddfa ddomestig. Telir am hyn gan dreth arbennig ar y cwmnïau ynni.

Mae'r mudiad amgylcheddol wedi comisiynu astudiaeth bwysig am arbed ynni yn y cartref gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Rhydchen7. Dangosodd yr astudiaeth sut y gallai'r DG leihau allyriadau carbon deuocsid mewn cartrefi yn y DG gan 80% erbyn 2050. Cyflwynwyd yr astudiaeth i ymchwiliad Pwyllgor Cynaladwyedd Llywodraeth y Cynulliad ar dorri allyriadau carbon ddeuocsid yng Nghymru.

Mae Cyfeillion y Ddaear a Chymorth i'r Henoed yn mynd a'r Llywodraeth i'r llys yr wythnos nesaf (Hydref 6-7) am ei bod yn methu yn ei dyletswydd gyfreithiol i ddiddymu tlodi tanwydd.

NODIADAU

  1. Mae gan Lywodraeth y DG ddyletswydd gyfreithiol o dan 'Deddf Cadwraeth Ynni a Chartrefi Cynnes 2000' i wneud popeth ymarferol bosibl i ddiddymu tlodi tanwydd mewn cartrefi bregus erbyn 2010 ac mewn cartrefi eraill erbyn 2018. Mae tua 80% o'r bobl sy'n dioddef tlodi tanwydd yn fregus ac yn cynnwys yr henoed, pobl sy'n sâl, a phobl ag anableddau. Ceir manylion am rwymedigaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn yr Ymrwymiad i Dlodi Tanwydd yng Nghymru a gellir gweld hyn drwy glicio:
    ymchwiliadecolicymru.org/desh/publications/housing/fuelpovcommit/strategye.pdf?lang=enmAE
  2. Mae tlodi tanwydd yn cael ei ddiffinio fel y cartrefi sydd angen gwario mwy na 10% o incwm eu cartref ar ynni domestig i sicrhau cartref cynnes ac iach are eu cyfer.
  3. Ym Mis Hydref 2007cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei arolwg "Byw yng Nghymru". Dangosodd yr arolwg fod tlodi tanwydd wedi gostwng o 333,000 i 134,000 o gartrefi rhwng 1998 a 2004, a dyblodd y nifer i fwy na 240,000 rhwng 2004 a 2006.
  4. 6ed Adroddiad Cynnydd Strategaeth Tlodi Tanwydd y DG.
  5. Siarter Tlodi Tanwydd a arwyddwyd gan ystod o gyrff defnyddwyr ac elusennau ar Fedi 8fed eleni.
    www.foe.co.uk/resource/press_releases/Fuel_Poverty_Charter_08092008.html
  6. Mae'r cartref cyfartalog yn wynebu bil tanwydd blynyddol o dros £130. Mae hyn yn draean drutach na'r llynedd a mwy na dwbl y bil cyfartalog bum mlynedd yn ôl.
  7. 'Home Truths: A Low-Carbon Strategy to Reduce UK Housing Emissions by 2050' by Dr Brenda Boardman of the Environmental Change Institute at Oxford University.: 'Y Gwir Plaen:Strategaeth Carbon Isel i Leihau Allyriadau Cartrefi'r DG erbyn 2050' gan Dr Brenda Boardman o Athrofa Newid Amgylcheddol ym Mhrifysgol Rhydychen: http://www.eci.ox.ac.uk/research/energy/hometruths.php

Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 20229577