- Ein hymgyrchoedd
- Amdanom ni
- Get Involved
- Newyddion
Cyfredol
Climate science: Countering the myths
A greener Wales - making it happen
Ailgylchu yn dechrau o ddifri yn Sir Fynwy
Beth fyddai'n well gennych chi: ynni gwynt neu ynni niwclear?
Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
Bwganod Brain Cymru yn mynnu cael caeau di-GM!
Cadwch Gymru'n Rhydd o GM
Coal in Wales
Dyfodol ynni yng Nghymru...
Environmental campaigning - What can I do?
Etholiadau Cynulliad 2003
Fferm wynt fôr Scarweather Sands
Green Question Time
Llwyddiant yr ymgyrch fferm wynt
Llywodraeth y DU yn ailagor dadl ynni niwclear
Mae'r hinsawdd yn newid, mae'n bryd holi cwestiynau
Newport Big Ask Live gig
Ydi Masnach yn Deg?
Ynni gwynt: 20 Myth Yn Mynd Gyda’r Gwynt
Dai the Dragon demands action at global climate talks
Merthyr defeats massive rubbish incinerator
'Hawl i holi' etholiadau'r Cynulliad o amgylch Cymru
Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach
- Adnodd
Ymgyrchwyr yn annog Aelodau'r Cynulliad i ddileu tlodi tanwydd6 July 2011
Datganiad i'r wasg - Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru
6 Gorffennaf 2011
Mae ymgyrchwyr Tlodi Tanwydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i gartrefi sydd mewn tlodi tanwydd difrifol wrth iddynt wynebu prisiau cynyddol y gaeaf hwn. Ar hyn o bryd, mae 61,000 o gartrefi yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol gan wario £1 ym mhob £5 ar gadw eu cartrefi'n gynnes.
Ac wrth i arbenigwyr ynni ddarogan y bydd cyflenwyr eraill yn dilyn Scottish Power ac yn codi prisiau 10% neu fwy cyn y gaeaf, mae nifer y bobl ledled Cymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd a thlodi tanwydd difrifol yn siŵr o godi.
Wrth lansio cynllun newydd i fynd i'r afael â'r broblem yn y Cynulliad heddiw, galwodd Nuria Zolle, Cadeirydd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru am gynllun gweithredu manwl sy'n dangos sut y gallai'r llywodraeth gyflawni ei thargedau.
Dywedodd Ms Zolle: "Mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o sefydliadau sydd am ddileu tlodi tanwydd. Gwyddom fod y llywodraeth - a'r holl bleidiau yn y Cynulliad - yn ymrwymedig i ddileu tlodi tanwydd, ond wrth i brisiau barhau i godi'n gyflymach na chyflogau, nid yw ymdrechion gorau'r llywodraeth wedi llwyddo i gadw i fyny.
"Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu darlun clir o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yng Nghymru a'r cerrig milltir y bydd angen i ni eu cyflawni ar y ffordd er mwyn dileu tlodi tanwydd. Hoffem hefyd weld amrywiaeth o fesurau i wella'r ffordd y caiff gwariant ar dlodi tanwydd ei integreiddio â rhaglenni eraill - gyda llywodraeth y DU a rhwng adrannau Llywodraeth Cymru - a chronfa argyfwng i sicrhau y caiff y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru eu diogelu."
Mae'r cynllun gweithredu chwe phwynt yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- Creu map ffordd â cherrig milltir clir sy'n nodi sut ac erbyn pryd y bwriedir cyflawni targed 2010 i ddileu tlodi tanwydd ymhlith cartrefi agored i niwed
- Datblygu'r cynllun monitro a gwerthuso y cytunwyd arno yn y Strategaeth Tlodi Tanwydd ddiwygiedig, gan gynnwys manylion am gostau rhedeg gwirioneddol cartrefi cyn ac ar ôl pob ymyriad effeithlonrwydd ynni a weithredir gan Lywodraeth Cymru
- Sicrhau bod y cynlluniau effeithlonrwydd ynni Nest ac Arbed yn cael eu hintegreiddio'n effeithiol â rhaglenni cymorth cenedlaethol y DU, gan flaenoriaethu a thargedu cartrefi mewn tlodi tanwydd difrifol fel mater o gyfiawnder cymdeithasol
- Datblygu cronfa argyfwng gwresogi i sicrhau lles cartrefi agored i niwed dros fisoedd y gaeaf
- Cyflwyno rhaglen waith ar gyfer y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o ddileu tlodi tanwydd
- Manteisio ar y potensial sydd gan raglenni effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys y Fargen Werdd ac Ymrwymiad y Cwmnïau Ynni, i greu cyfleoedd gwaith a phrentisiaethau gwyrdd yng Nghymru
Caiff y lansiad yn y Senedd ei annerch gan Weinidog yr Amgylchedd, John Griffiths AC, a'i gyflwyno gan Mark Isherwood AC, a gadeiriodd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd yn y Cynulliad blaenorol. Bydd aelodau grŵp llywio'r Gynghrair Tlodi Tanwydd a chefnogwyr eraill hefyd yn bresennol yn y digwyddiad hwn.
NODIADAU
Sefydlwyd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn 2009 ac mae mwy na 50 o sefydliadau yn aelod ohoni.
Caiff y Gynghrair ei harwain gan Lais Defnyddwyr Cymru a National Energy Action Cymru ynghyd â grŵp llywio sy'n cynnwys: Age Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, Plant yng Nghymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Canolfan Eco Cymru, y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Cymorth Canser Macmillan, Oxfam Cymru a Shelter Cymru.
Am ragor o fanylion am y Gynghrair Tlodi Tanwydd, ewch i http://www.fuelpovertycharterwales.org.uk/cy
Neu ewch i dudalen y Gynghrair ar Facebook
Neu ewch ar twitter: @fuelpovertycc
Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 20229577



Discuss "Ymgyrchwyr yn annog Aelodau'r Cynulliad i ddileu tlodi tanwydd" in our forum