- Ein hymgyrchoedd
- Amdanom ni
- Get Involved
- Newyddion
Cyfredol
Gwnewch Gymru yn genedl gynaliadwy flaenllaw
Helpwch i atal ffracio yng Nghymru
Merthyr defeats massive rubbish incinerator
Ynni gwynt: 20 Myth Yn Mynd Gyda’r Gwynt
Climate science: Countering the myths
'Hawl i holi' etholiadau'r Cynulliad o amgylch Cymru
Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach
Dai the Dragon demands action at global climate talks
Archive
Cadwch Gymru'n Rhydd o GM
Etholiadau Cynulliad 2003
Ydi Masnach yn Deg?
Fferm wynt fôr Scarweather Sands
Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
Llwyddiant yr ymgyrch fferm wynt
Bwganod Brain Cymru yn mynnu cael caeau di-GM!
Mae'r hinsawdd yn newid, mae'n bryd holi cwestiynau
Ailgylchu yn dechrau o ddifri yn Sir Fynwy
Llywodraeth y DU yn ailagor dadl ynni niwclear
Newport Big Ask Live gig
Green Question Time
A greener Wales - making it happen
Datganiadau i'r wasg
Welsh Government M4 consultation failure
Severn Barrage makes no sense for jobs, energy or environment
Assembly committee warns of dangers of waste incineration
Ruling confirms Anglesey campaigners’ anti-wind myths as misleading
Fossil fuels mean a grim future for Welsh jobs
International statesman visits Wales to find out about world-leading environmental law
Severn barrage not the solution for economy or energy
Fukushima company could run Anglesey nuclear plant
EC starts legal action against UK Government over damaging Pembroke power station
Serious concerns raised over Wales’ air pollution
Silk: Government energy chief never been to Wales
Past press releases
Datganiadau i'r wasg 2012
Datganiadau i'r wasg 2011
Datganiadau i'r wasg 2009
Datganiadau i'r wasg 2008
Datganiadau i'r wasg 2007
Datganiadau i'r wasg 2006
Datganiadau i'r wasg 2005
Datganiadau i'r wasg 2004
Datganiadau i'r wasg 2003
Datganiadau i'r wasg 2002
Datganiadau i'r wasg 2001
Datganiadau i'r wasg 2000
- Adnodd
Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cael eu hannog i gefnogi morlynoedd o flaen y morglawdd.
13 Oct 2008
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cael eu hannog i gefnogi morlynoedd llanw yn hytrach na Morglawdd yr Hafren wrth iddynt gychwyn ar y gwaith o adolygu egni llanw1.
Wrth siarad yng nghynhadledd hydref y blaid yn Abertawe dros y Sul, dywedodd Cyfeillion y Ddaear Cymru y byddai cyfuniad o morlynoedd ar y môr ac opsiynau llanw eraill yn llai niweidiol i'r amgylchedd ac y gallent gael eu hadeiladu yn gynt ac yn rhatach na'r morglawdd. Hefyd, beirniadodd y grŵp gefnogaeth Comisiwn Datblygu Cynaliadwy ar gyfer y morglawdd a allai, yn ôl y Comisiwn, arwain y gad o ran newid amgylcheddol.
Dywedodd llefarydd ynni Cyfeillion y Ddaear Cymru, Neil Crumpton:
"Gallai Morglawdd yr Hafren achosi niwed sylweddol i gymaint o'r cynefin bywyd gwyllt sy'n warchodedig a thra phwysig a rhwystro pysgod rhag mudo.
"Mae'n debygol o gostio mwy na'r £15 biliwn disgwyliedig, gyda chymorthdaliadau o drethdalwyr, a chodir rhwystrau i longau i borthladdoedd megis Avonmouth.
"Os caiff ei adeiladu, byddai'n cynhyrchu oddeutu un y cant o alw'r DG am ynni, ond gwneir hynny mewn dau guriad sy'n para am 4 awr ar bob llanw trai. Ni fyddent yn cydfynd â'r amrywiadau dyddiol yn yr alw o'r grid a byddai angen cyflenwad 'wrth gefn' yn ychwanegol i'r hyn fyddai'n angenrheidiol ar gyfer rhaglen wynt ar y môr sy'n cynhyrchu pum gwaith mwy o ynni.
"Credwn y dylai Llywodraethau y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru annog y gwaith o adeiladu arddangosiad morlyn llanw ar y môr ym Mae Abertawe a/neu Fae Lerpwl cyn gynted ag y bo modd. Byddai hyn yn galluogi Cymru i arwain y byd mewn technoleg werdd newydd cyffrous.
"Rydym yn galw ar y Democratiaid Rhyddfrydol i gynnwys ystyriaeth ddwys o'r opsiynau eraill yn eu hastudiaeth, megis morlynoedd llanw a chynllun craig (reef) neu forglawdd yn ardal Shoots yr aber. Gallai hynny ddarparu croesfan ar gyfer cyswllt rheilffordd cyflymdra uchel iawn i Dde Cymru.
"Dylent hefyd fod yn ymwybodol y gallai £15 biliwn helpu uwchraddio safle cynhyrchu gwynt a llanw ar y môr gyda sgiliau i gyflawni llawer iawn mwy o anghenion ynni'r DG nag un prosiect mentrus."
Rhoddodd Cyfeillion y Ddaear Cymru eu rhybudd i'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod methiannau difrifol yn asesiad Comisiwn Datblygu Cynaliadwy am egni llanw yn y DG2 .
Aeth Neil Crumpton ymlaen i ddweud:
"Methodd yr astudiaeth ar egni llanw gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy i wneud unrhyw asesiad o'r hyn y gellid ei gyflawni gan wario'r £15 biliwn ar dechnolegau di lanw i leihau effeithiau newid hinsawdd.
"Honnodd y byddai morlynoedd llanw mawr yn ddrud ac yn niweidio'r amgylchedd ond ni roddodd unrhyw reswm pam felly. Roedd yn dibynnu'n drwm ar asesiad gan un ymgynghorydd am beth fyddai'r amcangyfrif cost adeiladu'r morlynoedd ar y môr a'r costau cynhyrchu."
Mae Neil Crumpton yn aelod o grŵp llywio asesiad amgylcheddol strategaethol astudiaeth llanw'r Hafren yr Adran Ynni.
Nodiadau
- Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymraeg ar y cyd a'u cyd aelodau yng Ngorllewin Lloegr ar fin cychwyn astudiaeth o'r opsiynau llanw sydd ar gael ym mor Hafren.
- 'Ynni Llanw yn y DG' gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 20229577



