Datganiadau i'r wasg 2008

Parth carbon isel blaenau'r cymoedd yn 'bolisi fydd yn ennill'

3 Rhagfyr 2008

Mae cynllun uchelgeisiol gan Lywodraeth y Cynulliad i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ar draws Blaenau'r Cymoedd wedi ei groesawu gan Gyfeillion y Ddaear Cymru.

Byddai'r cynllun 15 mlynedd yn golygu bod 40,000 o gartrefi yn cael eu ffitio â mesurau effeithlonrwydd ynni a systemau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach, megis ynni solar a gwynt. Dyma fydd y Parth Carbon Isel cyntaf o'i fath yn Ewrop.

Meddai Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gordon James: "Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd y blaen i wella'r defnydd o ynni mewn miloedd o gartrefi yn ardal Blaenau'r Cymoedd. Dyma bolisi fydd yn ennill y dydd gan ddod â biliau tanwydd is, toriadau mewn allyriadau nwyon sy'n newid yr hinsawdd, swyddi ychwanegol, a hwb i'r economi.

"Mae'r gwaith o lunio Parthau Carbon Isel wedi bod yn un o'n prif flaenoriaethau wrth inni fynd i'r afael â newid hinsawdd a thlodi tanwydd. Dyma brif argymhelliad mewn adroddiad a gyflwynon ni i Lywodraeth y Cynulliad y llynedd.

"Mae'r prosiect hwn yn digwydd mewn rhan o Gymru a fu'n flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol. Fe gredwn y gallai gymryd rôl gyffelyb yn y chwyldro ynni gwyrdd sy'n angenrheidiol i dorri allyriadau nwyon sy'n newid yr hinsawdd ac yn helpu adfer yr economi.

"Yr unig ofid sydd gennym yw bod hyn yn digwydd mewn un rhan o Gymru. Os ydym am wneud toriadau digonol mewn allyriadau a thlodi tanwydd, mae'n rhaid inni gael cynlluniau fel hyn ar draws Cymru.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 2022 9577

Nodiadau

1. 'Gwirioneddau Cartref: Strategaeth Garbon Isel i leihau Allyriadau o Gartrefi yn y TG gan 80% erbyn 2050' gan Dr Brenda Boardman, Athrofa Newid Amgylcheddol, Prifysgol Rhydychen.

Crynodeb

Adroddiad llawn