Datganiadau i'r wasg 2011

Cyfle olaf i gofrestru gwrthwynebiad i losgydd sbwriel enfawr yng Nghymru

23 Mawrth 2011

Dydd Iau (24 Mawrth) yw'r diwrnod olaf y gall unrhyw un gofrestru i fynegi pryderon ynglŷn â'r llosgydd sbwriel enfawr y mae cwmni o America yn gwneud cynnig i'w godi uwchlaw un o drefi De Cymru.

Byddai'r gwaith enfawr, a gynigir gan Covanta ar gyfer Merthyr, yn mynnu 750,000 tunnell fetrig o sbwriel y flwyddyn - mwy nag a gynhyrchir gan holl gartrefi Cymru - a byddai'n ergyd i'r cynnydd o ran ailgylchu a lleihau gwastraff ledled y wlad.

Ar Ddydd Mawrth (22 Mawrth), aeth tri llond bws o drigolion Merthyr a Rhymni, cynrychiolwyr grwpiau cymunedol ac ymgyrchwyr amgylcheddol â chwe mil o ffurflenni i bencadlys Pwyllgor Cynllunio Seilwaith (IPC) y DU ym Mryste.

Meddai Alyson Austin, o Gyfeillion y Ddaear Merthyr:

"Mae pobl Merthyr wedi bod yn heidio i'n stondinau stryd i wrthwynebu'r cynnig trychinebus hwn. Mae'n iawn i drigolion fod yn bryderus ynghylch materion iechyd, a'r cannoedd o loriau a fydd ar y ffordd bob dydd yn cludo sbwriel o bob rhan o'r wlad.

"Dywed Covanta y bydd y llosgydd enfawr hwn, a fydd yn fwy na Stadiwm y Mileniwm, yn dod â swyddi i'r ardal. Fodd bynnag, dim ond tua 65 o swyddi llawn amser fydd yn y gwaith, a chyfran fechan iawn o'r rheiny fyddai'n mynd i bobl leol. Mae ailgylchu ac ailddefnyddio yn rhoi o leiaf 10 gwaith mwy o swyddi, ac yn ateb gwirioneddol wyrdd.

"Byddai codi'r llosgydd hwn yn effeithio ar bawb yng Nghymru. Dydd Iau yw'r diwrnod olaf i fynd ar-lein a chofrestru eich pryder gyda'r IPC [1]."

Dywedodd Haf Elgar, ymgyrchydd dros Gyfeillion y Ddaear Cymru:

"Bydd angen i'r gwaith gwastraff enfawr hwn losgi miloedd o dunelli metrig o adnoddau gwerthfawr bob blwyddyn i'w wneud yn gost effeithiol.  Os ydym am gyrraedd ein targedau ailgylchu, bydd yn rhaid i Gymru ddod yn fan gwaredu sbwriel ar gyfer Lloegr a'r tu hwnt.

"Nid yw llosgi yn opsiwn gwyrdd - mae'n cynhyrchu lludw gwenwynig, llygredd aer a charbon deuocsid sy'n newid hinsawdd. Byddai'r llosgydd hwn yn drychineb rheoli gwastraff i Gymru."

 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 20229577