Datganiadau i'r wasg 2008

Galw ar arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru i wrthwynebu'r rhuthr i lo

6 Hyd 2008

Rhaid gwrthwynebu'r galwadau am ehangu'r diwydiant glo yng Nghymru. Dyma'r apêl gan fudiad amgylcheddol blaenllaw mewn llythyr at arweinwyr y pedwar prif plaid yng Nghymru'r wythnos hon.

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, allyriadau o losgi glo yw prif achos newid hinsawdd ac mae'n rhaid ei leihau cyn gynted ag y bo modd. Fe all fod dyfodol i lo pan fydd technolegau i gipio a storio carbon ar gael yn fasnachol, ond ni ddisgwylir i hyn ddigwydd cyn 2020.

Meddai Cyfarwyddwr Cyfeilion y Ddaear Cymru, Gordon James:

"Gan ein bod yn wynebu bygythiad aruthrol oddi wrth newid hinsawdd, rydym yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw gynnydd yn y defnydd o lo nes bod cipio a storio carbon yn cael ei ddatblygu'n fasnachol.

"Rydym yn ysgrifennu at arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru, gan eu hannog i wrthwynebu galwadau am adfywio glo yng Nghymru nes cawn y dechnoleg i ddelio ag allyriadau sy'n newid yr hinsawdd. Mae'n annhebyg y gwelwn hyn cyn 2020.

"Glo yw'r achos mwyaf o newid hinsawdd sy'n gyfrifol am hanner y carbon deuocsid(CO2) a ollyngwyd gan bobl erioed, a'r prif reswm pam mae Prydain wedi gollwng mwy o CO2 y pen nag unrhyw wlad arall. Mae Cymru wedi cyfrannu mwy na'i chyfran deg, wrth gwrs.

"Gorsaf bŵer Aberddawan, sy'n llosgi llawer o'r glo Cymreig a gynhyrchir, sy'n gollwng y maint mwyaf o CO2 yn y wlad. Gallai ei hallyriadau o saith miliwn dunnell yn 2006 godi i un filiwn ar ddeg o dunellau gan y disgwylir cynnydd yn ei gallu cynhyrchu.

"Honna rai yng Nghymru y gellir llosgi glo yn 'lan' ac yn effeithlon. Mae hyn yn addewid ffug am y tro - ychydig yw'r enillion mewn effeithlonrwydd, a byddai llosgi rhagor o lo yn cynyddu'n hallyriadau carbon ddeuocsid i lefelau sy'n fwy peryglus.

"Dibynna unrhyw ddyfodol i lo fel tanwydd ar ein gallu i gipio a storio dan ddaear y carbon ddeuocsid sy'n cael ei ollwng. Ond y mae arbenigwyr yn rhagweld nad yw'n debygol y bydd y dechnoleg cipio a storio carbon(CCS) ar gael tan 2020. Tan hynny, ni ddylem adeiladu gorsafoedd pŵer sy'n defnyddio glo ac yn sicr ni all yr addewid o CCS rywdro yn y dyfodol gael ei ddefnyddio fel esgus i adeiladu gorsafoedd pŵer sy'n defnyddio glo heddiw.

"Gan fod dros 70 y cant o'r glo a ddefnyddir yn y DG heddiw yn cael ei fewnforio, mae'n bosibl y gallai glo Cymreig ddisodli rhai o'r mewnforion hyn. Ond ni ellir caniatáu i ragor o lo Cymreig olygu i fwy o dirluniau Cymreig gael eu difwyno yn ofnadwy gan lofeydd brig, gyda'r effeithiau ar gymunedau, iechyd pobl a'r amgylchedd.".

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn nodi bod un o wyddonwyr hinsawdd penna'r byd, yr Athro James Hanson o NASA, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Gordon Brown yn galw arno i wrthod cynigion i adeiladu gorsafoedd pŵer sy'n defnyddio glo1. Dywedodd Yr Athro Hanson fod yna "gytundeb i ddefnyddio llai o lo, ac eithrio lle cipir carbon ddeuocsid, yn 80 y cant o'r ateb i argyfyngau newid hinsawdd".

Ar Ddydd Mawrth y 7fed bydd Grŵp Ynni Cynaliadwy'r Cynulliad Cenedlaethol yn trafod dyfodol glo ar ôl cyflwyniadau gan dri arbenigwr.

Ewch

1. http://www.columbia.edu/~jeh1/mailings/20071219_DearPrimeMinister.pdf

Am fanylion pellach, cysylltwch â Chyfeillion y Ddaear Cymru ar 029 20229577