Mae'r Ymgyrch i gadw Cymru'n Rhydd o GM wedi golygu nad oedd cnydau GM wedi eu tyfu yng Nghymru ers 2002 ac nid oes had olew rêp neu fetys GM wedi eu plannu (yn gyfreithiol) yng Nghymru ers 1998.

Ni ellid fod wedi ennill llawer o ymgyrchoedd Cyfeillion y Ddaear heb gefnogaeth cefnogwyr ymroddedig fel chi. Isod fe welwch hanesion rhai o'n llwyddiannau yn yr ymgyrch yma.
Parhaodd Cymru gyda'i safiad cryf yn erbyn cnydau GM drwy uno gyda rhanbarthau eraill Ewrop, yn cynnwys Twsgani ac Awstria Uchaf, i fynnu'r hawl i aros yn rhydd o GM. Mewn datganiad i'r Comisiwn Ewropeaidd dadleuodd y rhanbarthau fod yn rhaid iddynt gael yr hawl i gyhoeddi eu hunain yn barth neu ranbarth rhydd o GM.
Y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo ei hun i wrthwynebu cynlluniau gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i ddileu'r hawl i siarad ynglyn â materion iechyd mewn gwrandawiadau i drafod hadau amaethyddol newydd. Dadl y Cynulliad Cenedlaethol yw y dylai'r hawl yma aros neu y dylai hawl cyfatebol gael ei greu rhywle arall yn y system.
Y Cynulliad Cenedlaethol yn arwain y ffordd gan ddod y Llywodraeth gyntaf yn Ewrop i osod pellteroedd gwahanu statudol rhwng cnydau GM a chnydau confensiynol gan, i bob pwrpas, rwystro treialon cnydau GM rhag cael eu cynnal yng Nghymru.
Y Cynulliad Cenedlaethol yn pasio'n unfrydol bolisi Cymru'n rhydd o GM a ddrafftiwyd ac a ymgyrchwyd drosto gan Gyfeillion y Ddaear Cymru.
Heb eich cymorth chi ni fyddem wedi llwyddo mewn ymgyrchoedd fel y
rhain. Cadwch mewn cysylltiad - ymunwch â Cymru'n
Gweithredu a bod y cyntaf i gael gwybodaeth am weithredu e-bost
newydd ar-lein yn syth i'ch cyfrifiadur.
Llun
Cyfeillion y Ddaear Cymru