Hanesion o lwyddiant
Ers 1984 mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi cael sawl buddugoliaeth
mewn diogelu amgylchedd Cymru.
Wrth weithio gyda grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear a chymunedau
ledled Cymru mae rhai o'n llwyddiannau yn cynnwys:
Diogelu Cynefinoedd
- 1992 - y ddeiseb ddwyieithog gyntaf yn erbyn cloddio glo
brig wedi ei chyflwyno i'r Senedd ac wedi ei harwyddo gan 19,000 o
bobl.
- 1993 - datgelu bygythiad Gorchmynion Datblygiad Interim -
'planning timebombs' yn rhai o'n tirweddau mwyaf sensitif lle y bu
caniatâd cloddio.
- 1995 - gweithio gyda Chyfeillion y Ddaear Casnewydd i rwystro
morglawdd Brynbuga a fyddai wedi peri bygythiad uniongyrchol i ecoleg
yr afon Wysg.
- 1996 - cyhoeddi adroddiad amgylcheddol cyntaf i effeithiau
amgylcheddol lledaeniad olew y Sea Empress.
- 1997 - O'r diwedd cyflwynwyd Ardal Arbennig o Gadwraeth Ynysoedd
Sir Benfro ac Aberdaugleddau i Ewrop yn dilyn cwyn Cyfeillion y Ddaear
Cymru i'r Comisiwn Ewropeaidd.
- 2000 - rhwystro parc thema anferthol 'Ledgend Court' ger
Casnewydd
Atal llygredd
- 1992 - datgelu sgandal y safleoedd 'anhysbys' sydd wedi eu
gwenwyno yng Nghymru.
- 1994 - caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod gan y Swyddfa
Gymreig ar gyfer claddfa sbwriel anferthol yn Aberddawan fyddai wedi
gwenwyno dwr codi.
- 1995 - cynnal cwyn gan Gyfeillion y Ddaear Cymru a chyfeillion
Bae Ceredigion i'r UE ynglyn â methiant Llywodraeth y DG i weithredu
rheoliadau yr UE ar Asesiadau Effaith Amgylcheddol mewn perthynas
ag olew a nwy ar y môr.
- 1997 - gwrthod llosgydd gwastraff meddygol ar Ynys Môn.
- 1997 - gweithio gyda Chyfeillion y Ddaear Sir Benfro a grwpiau
amgylcheddol lleol. Rhwystro cynlluniau gan National Power yn Sir
Benfro i fewnforio a llosgi orimulsion, "tanwydd butraf y byd".
Ymgyrchu am gludiant cynaladwy
- 1998 - Trechu ffyrdd osgoi Crucywel a Bethesda.
- 2002 - Ffordd liniaru yr M4 wedi ei gohirio gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Ymgyrchu dros Gymru rhydd o GM
- 1999 - Atal dau gnwd o dreialon GM yn Sir Fynwy wedi i Gyfeillion
y Ddaear Cas-gwent fynegi pryderon.
- 2000 - Cynnig a ysgrifennwyd ac a ymgyrchwyd drosto gan Gyfeillion
y Ddaear Cymru ar gyfer Cymru rhydd o GM yn cael ei dderbyn gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru - 54 - 0.
- 2002 - Dim treialon GM wedi eu cyhoeddi ar gyfer Cymru.
Hyrwyddo datblygiad cynaladwy
- 1998 - ynghyd â grwpiau amgylcheddol eraill, lobio'n
llwyddiannus am ddyletswydd i hyrwyddo datblygiad cynaladwy i gael
ei gynnwys yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998 ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Cefnogwch
ein gwaith >