Gofynnwch i’ch AS gefnogi mesur seneddol cryf ar newid yn yr hinsawdd drwy ymuno â Cerys Matthews, Goldie Lookin Chain a Huw Stephens ar yr orymdaith ar-lein yn www.thebigask.com
"Mae angen i ni weithredu nawr. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth."
"Send in your clips, and make your voice heard bra. The future is in your hands."
"Pwyswch ar Lywodraeth y D.U. i roi mesur seneddol heriol ar waith ar newid yn yr hinsawdd."
Llynedd, fe ofynnodd dros 130,000 o gefnogwyr Cyfeillion y Ddaear i’w AS alw am ddeddf newydd i sicrhau toriadau blynyddol mewn carbon deuocsid. Mewn ymateb, ym mis Tachwedd 2006, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n cyflwyno Mesur Seneddol ar yr Hinsawdd.
Yr her nawr yw sicrhau fod y Mesur Seneddol yn un heriol. Sicrhewch fod Llywodraeth y D.U. yn clywed gan bobl Cymru.