- Ein hymgyrchoedd
- Amdanom ni
- Get Involved
- Newyddion
Cyfredol
Climate science: Countering the myths
A greener Wales - making it happen
Ailgylchu yn dechrau o ddifri yn Sir Fynwy
Beth fyddai'n well gennych chi: ynni gwynt neu ynni niwclear?
Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
Bwganod Brain Cymru yn mynnu cael caeau di-GM!
Cadwch Gymru'n Rhydd o GM
Coal in Wales
Dyfodol ynni yng Nghymru...
Environmental campaigning - What can I do?
Etholiadau Cynulliad 2003
Fferm wynt fôr Scarweather Sands
Green Question Time
Llwyddiant yr ymgyrch fferm wynt
Llywodraeth y DU yn ailagor dadl ynni niwclear
Mae'r hinsawdd yn newid, mae'n bryd holi cwestiynau
Morglawdd Hafren ac ynni'r llanw
Newport Big Ask Live gig
Sir Benfro i Lundain - Pererindod GM Gerald
Ydi Masnach yn Deg?
Ynni gwynt: 20 Myth Yn Mynd Gyda’r Gwynt
Dai the Dragon demands action at global climate talks
Merthyr defeats massive rubbish incinerator
'Hawl i holi' etholiadau'r Cynulliad o amgylch Cymru
Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach
Datganiadau i'r wasg
Giant Welsh incinerator proposal is key test of new planning law
New research shows potential for thousands of green jobs in the Heads of the Valleys
‘Warmest year on record’ call for action
300 new green jobs for Wales
Planning commission decision on Merthyr incinerator slammed
Welsh political parties should heed climate warning
New Uskmouth power station ‘yesterday’s technology’
Effective recycling doesn’t need multiple waste bins, says Friends of the Earth Cymru
Pembroke power station efficiency claim disputed
Europe acts over Pembroke power station
Response to Japanese nuclear emergency
Gallai pwerau newydd y cynulliad roi'r hawl i bobl a'r amgylchedd gael dyfodol iach
Cyfle olaf i gofrestru gwrthwynebiad i losgydd sbwriel enfawr yng Nghymru
‘No new nuclear power in Wales’ call to Ieuan and Carwyn on Chernobyl anniversary
First chance for Merthyr residents to be heard by commissioners over massive incinerator
Ymgyrchwyr yn annog Aelodau'r Cynulliad i ddileu tlodi tanwydd
Pembroke power station unlawful
Welsh Government halts new Pembroke power station
Wales at risk from nuclear power station in Somerset
New charge could cut carrier bag use by 90 per cent
Nuclear power consultation ignored Welsh language
Scrapping of Merthyr incinerator a victory for people and for common sense
Damaging Pembrokeshire power station set to go ahead
Massive failure on green energy in Wales
- Adnodd
Morglawdd Hafren ac ynni'r llanw1 September 2007
Lawrlwythwch adroddiad llawn (PDF†) Cyfeillion y Ddaear Cymru ar y Morglawdd Hafren
Mae ffyrdd rhatach a llai amgylcheddol niweidiol o gynhyrchu ynni o Aber yr Hafren na morglawdd llanw
Mae'r amrediad llanw yn Aber Afon Hafren ymhlith yr uchaf yn y byd, gan gyrraedd dros 13 metr, ac mae syniadau ar gyfer manteisio ar gynhyrchu ynni wedi eu hawgrymu ers amser maith.
Byddai'r prosiect arfaethedig ar gyfer Morglawdd Afon Hafren yn ymestyn bron i 10 milltir o Drwyn Larnog i'r gorllewin o Gaerdydd i yn agos i Brean Down yng Ngwlad yr Haf. Byddai'n costio tua £14 biliwn.
Byddai adeiladu'r strwythur 60 miliwn tunnell fetrig, yn cynnwys 370 ceson concrit a atgyfnerthwyd sy'n gyfanswm o 17 miliwn tunnell fetrig, yn cymryd hyd at 2019 i'w adeiladu ar y cynharaf. Byddai'n cau tua 185 milltir sgwâr o'r foryd.
Pam y byddai'r Morglawdd yn niweidiol yn amgylcheddol?
- Byddai wal y Morglawdd yn creu llyn 5 metr o ddyfnder ar ei ochr dwyreiniol, gan golli cynefin rhynglanwol, tiroedd bwydo ar gyfer degau o filoedd o adar
- Byddai'r Morglawdd yn haneru'r amrediad llanw a byddai fflora a ffawna sensitif yn cael eu colli a'r Eger Hafren yn cael ei leihau
- Byddai'r Morglawdd hefyd yn gallu cael effaith sylweddol ar rywogaethau pysgod sydd o ddiddordeb cadwraethol, drwy'r defnydd o lifddorau pysgod yn wal y morglawdd
- Gallai'r Morglawdd niweidio'n sylweddol ymarferoldeb porthladdoedd. Byddai hefyd yn creu traffig newydd ar y rhwydweithiau ffyrdd presennol o amgylch Larnog a maes awyr Caerdydd ac yn achosi pwysau o ran datblygu yng Ngwlad yr Haf
- Dywed ymgynghorwyr statudol y llywodraeth na fyddai prosiect Morglawdd Afon Hafren yn bosibl o fewn y fframwaith cyfreithiol presennol a ddarperir gan Gyfarwyddebau Cynefinoedd ac Adar yr UE. Mae'r foryd hefyd yn cael ei chynnig ar gyfer ei dynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), yr amddiffyniad uchaf o fewn cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
Pam na fydd Morglawdd Afon Hafren yn mynd i'r afael â'n anghenion
- Ni ellir cyfiawnhau prosiect y Morglawdd ar sail diogelu arfordirol gan y gellir codi cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd arfordirol yn eithaf cyflym a rhagwelir y bydd codiadau yn lefel y môr yn cymryd degawdau neu ganrif i godi i'r pwynt y byddai eu hangen
- Byddai buddsoddiadau eraill yn lleihau carbon yn gyflymach yn y degawdau hollbwysig nesaf
- Ni fyddai curiadau pŵer anferth y Morglawdd, yn para tair awr ddwywaith y dydd, yn cydamseru gyda'r amrywiadau yn y galw dyddiol ar y grid, gan olygu gallu cynhyrchu wrth gefn costus
- Gallai'r Morglawdd ei hun achosi erydiad arfordirol neu berygl o lifogydd ar ei ochr atfor.
Atebion carbon isel eraill
- Morlynnoedd llanw: morlynnoedd cynhyrchu trydan wedi eu lleoli tua milltir oddi ar arfordir Afon Hafren
- Rhwystr neu forglawdd Shoots: rhwystr amddiffyn rhag llifogydd byrrach neu forglawdd ger Ail Bont Hafren
- Technolegau morol eraill: ee tyrbinau cerrynt morol ym Môr Hafren
- Ynni gwynt: byddai tua 1,000 o dyrbinau 5 MW ar y môr yn cynhyrchu'r un allbwn blynyddol a phrosiect y Morglawdd
- Dal a Storio Carbon (CCS): byddai gosod CCS ar orsafoedd pŵer glo neu nwy yn gostwng eu hallyriadau gan 85-90%
Cred Cyfeillion y Ddaear bod ffyrdd amgylcheddol di-berygl o gynhyrchu ynni llanwol o Foryd yr Afon Hafren. Nid dinistrio ardal gadwraeth unigryw, rhyngwladol bwysig ac un sydd wedi ei gwarchod er mwyn cynhyrchu dim ond un y cant o ynni'r DU yw'r ffordd ymlaen.
Darllenwch yr adroddiad llawn (PDF†)
† Er mwyn gallu gweld ffeiliau PDF, bydd angen i chi lwytho i lawr Adobe Acrobat Reader. Gall defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg gael cymorth ychwanegol â'r dogfennau hyn ar access.adobe.com.




Discuss "Morglawdd Hafren ac ynni'r llanw" in our forum