Gwnewch Gymru yn genedl gynaliadwy flaenllaw
16 July 2013

Mae'n bosib i ddeddf newydd ar ddatblygu cynaliadwy a gynlluniwyd ar gyfer Cymru wella ansawdd ein bywyd a gwarchod y blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - gyda'ch help chi.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddf a allai arwain y byd o ran datblygu'n gynaliadwy, gan wneud difrod diangen i'r amgylchedd yn ddim ond atgof.

Gyda'r ddeddf gywir, byddai modd herio cynigion yn y dyfodol am safleoedd glo brig niweidiol, llosgyddion gwastraff enfawr, a thraffyrdd drwy gynefinoedd gwarchodedig.

Ond mae angen i'r ddeddf newydd roi dyletswydd ar y Llywodraeth ac ar gyrff cyhoeddus eraill, megis y cynghorau a'r awdurdodau iechyd, i weithredu'n gynaliadwy. Mae'n rhaid i gomisiynydd annibynnol gael ei benodi i sicrhau eu bod yn atebol am eu gweithredoedd.

Mae Cynghrair o dros 20 mudiad a phobl blaenllaw o faes yr amgylchedd, busnes a chyfiawnder cymdeithasol yn cefnogi Bil Datblygu Cynaliadwy amgen, ac yn cydweithio i ymgyrchu i wneud Cymru'n arloeswr byd ym maes datblygu cynaliadwy.

Darllenwch am gynigion y Gynghrair yma yn 'Llunio ein Dyfodol'

Byd bach, ein Byd ni -- Small World, Our World

© Iwan Bala