Archive

Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
9 May 2004

Ar 31 Mawrth 2004, cyhoeddodd cwmni Biotechnoleg anferth Bayer CropScience ei fod yn rhoi'r gorau i'w ymdrechion i fasnacheiddio math ChardonLL o India Corn a addaswyd yn enetig (GM) yn y DG.

Rali Di-GM, Llundain, Hydref 2003

Daw hyn ar ôl ymgyrch bedair blynedd gan Gyfeillion y Ddaear, a llawer o bobl eraill, i berswadio'r Llywodraeth i wrthod y cnwd.

Ym mis Mawrth 2003, cyflwynodd Cyfeillion y Ddaear Cymru farn (Fformat PDF) gyfreithiol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn dadlau na ellid ychwanegu ChardonLL i restr Hadau Cenedlaethol y DG gan na phrofwyd bod "pob cam priodol" wedi'i gymryd i "warchod iechyd dynol a'r amgylchedd". Ar ddechrau mis Mawrth 2004 cyflwynwyd papur brîff (Fformat PDF) cyfreithiol arall gennym i Aelodau'r Cynulliad.

Er bod Llywodraeth y DG wedi rhoi cymeradwyaeth "mewn egwyddor" i'r math hwn ar 9 Mawrth, roedd angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol os oedd i'w ychwanegu i'r Rhestr. Addawodd Carwyn Jones, Gweinidog y Cynulliad Dros yr Amgylchedd, i Aelodau'r Cynulliad na fyddai yn barod i ystyried y mater hwn hyd nes y gweithredwyd mesurau cadarnach i warchod ffermwyr confensiynol ac organig.

Mewn dadl yn y Cynulliad ar 24 Mawrth 2004, ni siaradodd un Aelod Cynulliad o blaid masnacheiddiad GM.

Mae tynnu ChardonLL yn ôl yn golygu bod cnydau GM yn annhebygol o gael eu tyfu'n fasnachol yn y DG hyd o leiaf y flwyddyn 2008.

Cyfeillion y Ddaear Cymru a Cymru Ddi-GM y tu allan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru , Hydref 2003

Ni fyddai hyn wedi digwydd pe na bai am y cannoedd o negeseuon e-bost, llythyron a galwadau ffôn a dderbyniodd Aelodau'r Cynulliad (AC) gan bobl ledled Cymru. Digwyddodd hyn o ganlyniad weithredoedd grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear ac eraill, megis Cymru Ddi-GM a ymgyrchodd mor ddiflino yn erbyn cnydau GM am flynyddoedd.

Gwneuthum restr o'r ohebiaeth a dderbyniais ar y mater hwn yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf - roedd yn gannoedd, ac yr wyf yn siwr mai dyna ddigwyddodd yn achos pob Aelod Cynulliad.

 Helen Mary Jones, AC Plaid Cymru AM yn ystod dadl y Cynulliad ar 24 Mawrth 2004

Nid yw Blaenau Gwent yn ganolfan gwybodaeth ar gnydau GM, ond derbyniais nifer fawr o gynrychioliadau yn erbyn plannu cnydau GM yng Nghymru.

Peter Law, AC Llafur yn ystod dadl y Cynulliad ar 24 Chwefror 2004

Adnodd

Amgylchedd Lleol Cymru yn Rhydd o GM

Amgylchedd Cymru'n Rhydd o GM