- Ein hymgyrchoedd
- Amdanom ni
- Get Involved
- Newyddion
Cyfredol
Climate science: Countering the myths
A greener Wales - making it happen
Ailgylchu yn dechrau o ddifri yn Sir Fynwy
Beth fyddai'n well gennych chi: ynni gwynt neu ynni niwclear?
Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
Bwganod Brain Cymru yn mynnu cael caeau di-GM!
Cadwch Gymru'n Rhydd o GM
Coal in Wales
Dyfodol ynni yng Nghymru...
Environmental campaigning - What can I do?
Etholiadau Cynulliad 2003
Fferm wynt fôr Scarweather Sands
Green Question Time
Llwyddiant yr ymgyrch fferm wynt
Llywodraeth y DU yn ailagor dadl ynni niwclear
Mae'r hinsawdd yn newid, mae'n bryd holi cwestiynau
Morglawdd Hafren ac ynni'r llanw
Newport Big Ask Live gig
Sir Benfro i Lundain - Pererindod GM Gerald
Ydi Masnach yn Deg?
Ynni gwynt: 20 Myth Yn Mynd Gyda’r Gwynt
Dai the Dragon demands action at global climate talks
Merthyr defeats massive rubbish incinerator
'Hawl i holi' etholiadau'r Cynulliad o amgylch Cymru
Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach
- Adnodd
Beth fyddai'n well gennych chi: ynni gwynt neu ynni niwclear?1 October 2002
Mae ffermydd gwynt yn rhan bwysig mewn dyfodol ynni adnewyddadwy ar gyfer Cymru.
Gofynnodd Cyfeillion y Ddaear i Market Research Wales, i ddarganfod beth oedd barn pobl yng Nghymru am ffermydd gwynt.
Mae 71% o bobl yn cefnogi dyblu y 360 tyrbin gwynt sydd ar y tir ar hyn o bryd yng Nghymru.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cynnig dyblu ffermydd gwynt ar dir erbyn 2010 er mwyn helpu i leihau lledaeniad y nwyon sy'n newid hinsawdd a chreu swyddi i Gymru.
Dywedodd 87% y byddai'n well ganddynt weld 600 o dyrbinau gwynt ar y môr nac un orsaf niwclear.
Byddai 600 o dyrbinau, o leiaf pedair milltir oddi ar y tir, yn cynhyrchu oddeutu yr un faint o ynni ac un orsaf niwclear newydd.
Mae Llywodraeth y DG yn edrych at ynni niwclear i gwrdd â'i ymrwymiadau i leihau lledaeniad 'nwyon ty gwydr" sy'n achosi newid hinsawdd. Nid ydym ni'n cytuno- ynni adnewyddadwy yw'r dull mwyaf diogel a glan o wrthwynebu newid hinsawdd.
Pam fod y canlyniadau o bwys?
Mae ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cael ei ddal yn ôl oherwydd gwrthwynebiad swnllyd i adeiladu ffermydd gwynt.
Os rhwystrir gormod o gynlluniau ynni adnewyddadwy yna byddwn yn wynebu adeiladu gorsafoedd ynni niwclear newydd drud a pheryglus.
Un math o ynni adnewyddadwy y mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ei gefnogi ar gyfer Cymru yw ynni gwynt. Rhaid i ni hefyd ddefnyddio llawer llai o drydan nac yr ydym yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Ond ni wnaiff effeithlonrwydd ynni a thechnolegau adnewyddadwy eraill gyflawni'r holl ostyngiadau mewn nwyon ty gwydr sy'n rhaid i ni eu gwneud.
Dyna pam mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ymgyrchu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gosod targedau uchel ar gyfer cynhyrchu trydan o ddulliau adnewyddadwy yng Nghymru.
Mae'r hadroddiad llawn i'w gael yma. (PDF† Fformat 151K)
Gwasgu am Newid
Ymunwch â Cymru'n Gweithredu a chynorthwywch i gefnogi ymgyrchodd Cyfeillion y Ddaear Cymru.
†I edrych ar ffeiliau PDF bydd angen i chi ddadlwytho Adobe Acrobat Reader. Gall defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg gael cymorth ychwanegol gyda'r dogfennau hyn gan access.adobe.com.
Llun
Paul Glendell

© Paul Glendell



Discuss "Beth fyddai'n well gennych chi: ynni gwynt neu ynni niwclear?" in our forum