Cartrefi cynnes i Gymru
17 April 2013

Gallai deddf tai newydd yng Nghymru leihau allyriadau nwy tŷ gwydr, gostwng biliau ynni, gwella ein cartrefi a chreu swyddi gwyrdd

Mae rhagor nag un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt wario rhagor na 10 y cant o incwm y cartref i gadw'n gynnes. Ac mae tai yn gyfrifol am tua un rhan o bump o allyriadau nwy tŷ gwydr yng Nghymru.

Mae'r Bil Tai a ddaw gan Lywodraeth Cymru yn gyfle gwych i wella ansawdd tai yng Nghymru.

Mae cynllun Arbed y llywodraeth eisoes wedi gwella 7,500 o gartrefi gyda mesurau megis gosod bwyleri effeithlon, insiwleiddiad waliau a phaneli solar ffotofoltäig - ond mae mynd i'r afael o ddifrif â'r broblem yn golygu uwchraddio 400,000 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.

Rhaid i'r Bil Tai osod safonau gofynnol mewn effeithlonrwydd ynni ar gyfer tai rhent. Mae tai preifat sydd ar rent ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn wael iawn o ran eu heffeithlonrwydd ynni na thai eraill, sy'n golygu bod y bobl dlotaf yn fwy tebygol o fyw yn y tai gwaethaf.

Rhaid i'r Bil Tai:

  • Ei gwneud hi'n anghyfreithlon i landlordiaid osod eiddo sy'n aneffeithlon o ran ynni
  • Rhoi sicrwydd i denantiaid na fyddant yn cael eu troi allan o'u tai os byddant yn gofyn i landlordiaid wella'r effeithlonrwydd ynni
  • Awdurdodi cynghorau lleol i wella tai, a chodi tâl ar landlordiaid os nad ydynt yn gwneud hynny eu hunain
  • Ei gwneud hi'n ofynnol i bob landlord ac asiant gosod/rheoli yng Nghymru i fod wedi eu cofrestru a'u trwyddedu, gan sicrhau y bodlonir safonau sylfaenol cyn y gellir rhentu tai

Cyflwynodd Cyfeillion y Ddaear Cymru ymateb i ymgynghoriad y Bil Tai ym mis Awst 2012, ac mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried cynigion cyn cyflwyno Bil Tai ym mis Hydref 2013.

Solar panel installation

© Thinkstock