Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach
10 April 2011

Mae pedwerydd tymor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfle ardderchog i gyflawni polisïau amgylcheddol uchelgeisiol ac i elwa o economi werdd.

Lawrlwythwch ein Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach.

Drwy arwain mewn datblygu cymdeithas wyrddach, gall Cymru:

  • Adeiladu economi gryfach
  • Creu rhagor o swyddi
  • Lleihau tlodi tanwydd
  • Gwella iechyd
  • Cyfoethogi bywyd gwyllt

Mae angen i'r llywodraeth yng Nghymru sicrhau bod mynd i'r afael â newid hinsawdd wedi ei wreiddio'n gadarn yn ei holl bolisïau.

Mae ein maniffesto yn amlinellu agenda realistig ar gyfer Llywodraeth newydd y Cynulliad sy'n cynnig gweledigaeth o ddyfodol cadarnhaol:

Ein gofynion

  • Torri nwyon tŷ gwydr gan 9 y cant y flwyddyn
  • Dim llosgi gwastraff
  • Ailgylchu 80 y cant erbyn 2020
  • Holl drydan Cymru o bŵer adnewyddol
  • Dim niwclear newydd
  • Cartrefi cynnes i bawb
  • Cynhyrchu bwyd cynaliadwy
  • Cadw Cymru yn Rhydd o GM
  • Arian cyhoeddus i brynu bwyd lleol
  • Cyfraith Hawliau Amgylcheddol

Perthnasol

Mawrth '11
Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach.