Skip navigation and title
Friends of the Earth Cymru / Cyfeillion y Ddaear Cymru

Hafan > CYDd Cymru > Newyddion > Adroddiad Morglawdd Afon Hafren


Grass
Friends of the Earth Cymru

Gwneud bywyd yn well i bobl drwy ysbrydoli atebion i broblemau amgylcheddol


Ymgyrchoedd Adnodd Grwpiau Lleol Drwy’r byd i gyd

Cymraeg / English

Darllenwch yr adroddiad llawn  (PDF)

Pam yr ydym yn ei wrthwynebu a beth allai'r dewisiadau eraill fod

Mae'r amrediad llanw yn Aber Afon Hafren ymhlith yr uchaf yn y byd, gan gyrraedd dros 13 metr, ac mae syniadau ar gyfer manteisio ar gynhyrchu ynni wedi eu hawgrymu ers amser maith.

Byddai'r prosiect arfaethedig ar gyfer Morglawdd Afon Hafren yn ymestyn bron i 10 milltir o Drwyn Larnog i'r gorllewin o Gaerdydd i yn agos i Brean Down yng Ngwlad yr Haf. Byddai'n costio tua £14 biliwn.

Byddai adeiladu’r strwythur 60 miliwn tunnell fetrig, yn cynnwys 370 ceson concrit a atgyfnerthwyd sy'n gyfanswm o 17 miliwn tunnell fetrig, yn cymryd hyd at 2019 i'w adeiladu ar y cynharaf. Byddai'n cau tua 185 milltir sgwâr o'r foryd.

Pam y byddai'r Morglawdd yn niweidiol yn amgylcheddol?

Pam na fydd Morglawdd Afon Hafren yn mynd i'r afael â'n anghenion

Atebion carbon isel eraill

Cred Cyfeillion y Ddaear bod ffyrdd amgylcheddol di-berygl o gynhyrchu ynni llanwol o Foryd yr Afon Hafren.  Nid dinistrio ardal gadwraeth unigryw, rhyngwladol bwysig ac un sydd wedi ei gwarchod er mwyn cynhyrchu dim ond un y cant o ynni'r DU yw'r ffordd ymlaen.

Darllenwch yr adroddiad llawn  (PDF)


Er mwyn gallu gweld ffeiliau PDF, bydd angen i chi lwytho i lawr Adobe Acrobat Reader. Gall defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg gael cymorth ychwanegol â’r dogfennau hyn ar access.adobe.com.


Ddatganiadau i'r wasg Newyddion Pwyso am Newid Cymryd Rhan
Diweddariad diwethaf:
Dewislen: Mai 2008
Cynnwys: Medi 2007