Hafan > CYDd Cymru > Newyddion > Mae'r hinsawdd yn newid - mae'n bryd holi cwestiynau
Aeth Cyfeillion y Ddaear Cymru ar daith drwy Gymru gyda threlar ynni gwyrdd rhwng yr 11eg a'r 16eg o Orffennaf i hyrwyddo ymgyrch newid hinsawdd "yr Her Fawr". Ysgrifennodd pobl at eu AS i gefnogi gweithredu ar newid hinsawdd.
Gallwch chi wneud yr un peth drwy weithredu yma.
Ymwelodd y daith â lleoedd yr effeithiwyd arnynt yn barod gan newid
hinsawdd, a lleoedd y mae pobl yn ceisio gwneud gwahaniaeth ynddynt.
Cafodd gweithredu ar newid hinsawdd hwb ar Ddydd Llun 11eg Gorffennaf
yn y Rhyl. Roedd taith y trelar ynni gwyrdd ar Stryd Fawr Y Rhyl ar gyfer
y diwrnod cyntaf er mwyn codi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd. Roedd trigolion
lleol yn awyddus i ysgrifennu at eu AS i weithredu ar newid hinsawdd.
Roeddent hefyd yn gallu gweld ynni adnewyddadwy ar waith. Roedd panel
solar a thyrbin gwynt y trelar ynni gwyrdd yn gweithio i roi pwer i arddangosfa
glyweled a gwneud cwpaneidiau o de.

Trelar ynni gwyrdd yn ymweld ag Y Rhyl
Stryd Fawr Bangor yn croesawu'r daith ynni gwyrdd ar Ddydd Mawrth 12fed Gorffennaf. Roedd Yr Wyddfa, mynydd eiconig Cymru, i'w weld yn glir o ben uchaf y dref. Yn l ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor efallai na fydd eira i'w gael ar gopa'r Wyddfa yn y dyfodol agos. Gallai newid hinsawdd hefyd achosi diflaniad Lili'r Wyddfa. Roedd y trigolion lleol yn gefnogol i weithredu ar newid hinsawdd ac yn awyddus i gael gwybod mwy ynglyn meicro-adnewyddion ar gyfer eu tai eu hunain.

Cwestiynau ar y bwrdd du ym Mangor
Croesawodd Aberystwyth drydydd diwrnod y daith ynni gwyrdd ar Ddydd Mercher 13eg Gorffennaf. Cefn Croes gerllaw yw'r fferm wynt ddiweddaraf i gael ei hagor yng Nghymru, gan gynhyrchu ynni ar gyfer miloedd o dai lleol a chyfrannu ariannu i'r gymuned leol. Roedd technolegau ynni adnewyddadwy, a chynlluniau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer rhagor o gynlluniau yn y blynyddoedd nesaf, o ddiddordeb mawr i bobl leol.

Myfyrwyr yn mwynhau llenwi'r car ag olew llysiau
Mae Tyddewi, dinas leiaf y DU, am fod yn "garbon niwtral". Ymwelodd trigolion lleol sy'n hybu'r cynllun 'r daith ynni gwyrdd ar Ddydd Iau 14eg Gorffennaf yn Nhyddewi. Roedd y trigolion lleol ac ymwelwyr yn gefnogol iawn i'r ymgyrch ar newid hinsawdd i leihau allyriadau CO2. Dioddefodd Sir Benfro gan ollyngiad olew difrifol y Sea Empress ym 1996 ac mae hefyd wrth galon y ddadl am fewnforio Nwy Hylifedig Naturiol (LNG) i ddiwallu'r galw am ynni.

Pobl yn mwynhau'r arddangosfa yn Nhyddewi
Mae cloddio glo brig yn dal i hagru cymoedd Abertawe, tra bod fferm wynt newydd allan ym Mae Abertawe i'w chodi'n fuan. Mae marina Abertawe eisoes yn falch o'i dyrbin gwynt. Mae yna hefyd obeithion ar gyfer fferm wynt gymunedol, Awel Aman Tawe, yn Nyffryn Aman. Gallai Abertawe hefyd ddod yn gartref i'r morlyn llanwol cyntaf yn y DU - technoleg flaengar i harneisio ynni'r llanw. Arwyddodd y trigolion lleol gardiau post i'w hanfon i'w AS i weithredu ar newid hinsawdd, ac roedd ganddynt ddiddordeb yn y cynlluniau ynni adnewyddadwy newydd yn, ac o gwmpas, Abertawe.

Ysgrifennu at AS i ofyn iddynt weithredu ar newid hinsawdd
Mae Casnewydd, dinas fwyaf newydd Cymru, o dan fygythiad gan broblemau traffig cynyddol. Byddai 'Ffordd Liniaru yr M4' arfaethedig yn niweidio safleoedd bywyd gwyllt pwysig ac yn cynyddu nifer y cerbydau, y llygredd a'r allyriadau nwyon ty gwydr. Amlygodd y daith ynni gwyrdd y materion hyn ar Ddydd Sadwrn 16eg Gorffennaf yng Nghasnewydd. Roedd y bobl leol yn gefnogol i ragor o weithredu ar newid hinsawdd.

Y daith ynni gwyrdd yng Nghasnewydd
Mae ymgyrch Yr Her Fawr yn ymwneud â mynd i'r afael â'r cwestiwn mwyaf y mae'r byd yn ei wynebu - sut i wneud rhagor ynglyn â newid hinsawdd.
Mae'n galw ar y Llywodraeth i gyflwyno deddf newydd a fydd yn mynd i'r afael â newid hinsawdd drwy osod targed sy'n ymrwymiad cyfreithiol i gwtogi allyriadau carbon deuocsid gan dri y cant bob blwyddyn.
Dengys arolwg newydd gan NOP bod saith deg chwech y cant o'r bobl sy'n byw yng Nghymru yn credu nad yw'r Llywodraeth yn gwneud digon ynglyn â newid hinsawdd.
Dywedodd Julian Rosser, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
|
Nod ymgyrch Yr Her Fawr yw gwneud y Llywodraeth yn gyfreithiol gyfrifol am fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydym am gael deddf newydd sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion y Llywodraeth i dorri llygredd gan dri y cant y flwyddyn. Ond rydym hefyd angen cymorth gan y cyhoedd drwy ofyn i'r Llywodraeth pam nad yw'n gweithredu ar gynhesu byd-eang a gofyn i'w Haelodau Seneddol i gefnogi'r mesur newid hinsawdd. |
|

Plant a ymddangosodd yn hysbyseb sinema ymgyrch Yr Her Fawr o Ysgol Lwyfan Mark Jermin yn Abertawe, Mai 2005
Ffilmiwyd plant ysgolion cynradd Abertawe ar gyfer hysbyseb ffilm DU-gyfan fel rhan o ymgyrch newid hinsawdd Yr Her Fawr.
Gallwch wneud gwahaniaeth yn awr drwy weithredu:
Llun
Ian Homer