AG
Mae cnydau a addaswyd yn enetig (AG) wedi eu plannu mewn sawl lle yng
Nghymru ers 1998. Er na fu plannu masnachol o gnydau GM, fe fu treialon
arbrofol o india corn GM a had olew rêp ym Sir Fynwy a Sir Fflint.
Mae ymgyrchu gan Gyfeillion y Ddaear Cymru ac eraill wedi gwneud yn
sïwr nad oes treialon cnydau GM wedi digwydd yng Nghymru yn 2002.

Pam poeni?
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn gwrthwynebu plannu cnydau GM yng Nghymru
oherwydd mae addasiad genetig yn dechnoleg nas profwyd sy'n peri risg
o niweidio economi ac amgylchedd unigryw cefn gwlad Cymru, sydd eisoes
yn sigledig.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn poeni am:
- gnydau GM yn croesfridio gyda phlanhigion gwyllt i greu chwyn sy'n
gwrthsefyll chwynladdwyr
- cnydau GM sydd wedi eu profi'n wael yn peillio a gwenwyno cnydau
nad sy'n GM neu'n gnydau organig
- mwy o ddefnydd gan ffermwyr o gemegau sy'n niweidiol i'r amgylchedd,
gan arwain at ddifrod i'n bywyd gwyllt
- genynnau o blanhigion GM yn croesi drosodd i facteria a ffwng yn
y pridd.
Cynulliad
Cenedlaethol Cymru >
Adnodd
>
Cysylltiadau >
Llun
Ian Homer
|