Friends of the Earth Cymru / Cyfeillion y Ddaear Cymru

Hafan: CYDd Cymru: Ymgyrchoedd: Bwyd Go Iawn: Bwyd Lleol

 
 

Bwyd Lleol

Mae cludo bwyd miloedd o filltiroedd ar draws y byd yn achosi llygredd gan awyrennau ac yn arwain ar or-bacedu gwastraffus. Mae archfarchnadoedd grymus yn cael rheolaeth dros fwy a mwy o'r gadwyn fwyd, yn gorfodi y prisiau a delir i ffermwyr yn is ac yn gwasgu siopau lleol allan o fusnes.

Llun o stondin bwyd organig mewn marchnad ffermwyr

Byddai Cyfeillion y Ddaear Cymru yn hoffi adfer cysylltiad uniongyrchol rhwng ffermwyr a defnyddwyr. Mae prynu bwyd lleol, boed hynny o siopau neu'n uniongyrchol o farchnadoedd ffermwyr neu lidiart y fferm yn ffordd hawdd a llawn hwyl i bobl leihau eu heffeithiau personol ar yr amgylchedd.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn gweithio i annog:

  • pobl ledled Cymru i siopa mewn marchnadoedd ffermwyr lleol
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynghorau Lleol yng Nghymru o gefnogi marchnadoedd bwyd lleol
  • Ffermwyr o Gymru i gymryd mantais o gyfleoedd i amrywiaethu ac i ddiwallu anghenion bwyd lleol

Adnodd >
Cysylltiadau >

Llun Hawlfraint Ian Homer


 

Hawlfraint Hawlfraint Cyfeillion y Ddaear | Cysylltu â ni | Cefnogwch Gyfeillion y Ddaear