Friends of the Earth Cymru / Cyfeillion y Ddaear Cymru

Hafan: CYDd Cymru: Ymgyrchoedd: Bwyd Go Iawn: Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 
 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gall rhai cnydau ond gael eu plannu yng Nghymru gyda chaniatâd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae gan y Cynulliad bolisi o wrthwynebu plannu cnydau GM yng Nghymru oni bai eu bod wedi eu profi i fod yn ddiogel. Mae'r polisi, a ddrafftiwyd ac ymgyrchwyd amdano gan Gyfeillion y Ddaear Cymru, wedi sicrhau na fu dim plannu (cyfreithlon) o had olew rêp na betys GM yng Nghymru ers 1998.

Er y gellir plannu rhai cnydau GM yng Nghymru heb ganiatâd y Cynulliad, mae'n bosib i'r Cynulliad reoli plannu os oes ganddo dystiolaeth dda y bydd yn niweidio iechyd dynol neu'r amgylchedd.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw:

  • ar y Cynulliad i ddefnyddio ei rymoedd i rwystro plannu cnydau GM yng Nghymru
  • ar Lywodraeth y DG i gefnogi ymdrechion y Cynulliad i rwystro plannu GM
  • ar ffermwyr a defnyddwyr drwy Gymru i foicotio cynnyrch GM a rhoi pwysau ar gynhyrchwyr a gwerthwyr i beidio eu gwerthu.

Ffermio Gwyrddach >

Adnodd >
Cysylltiadau >

Image © Ian Homer

 

Hawlfraint Hawlfraint Cyfeillion y Ddaear | Cysylltu â ni | Cefnogwch Gyfeillion y Ddaear