Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae nifer o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i ddefnyddio
trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na char preifat. Ond er manteision
trafnidiaeth gyhoeddus, mae cost eithaf isel a hwylustra moduro wedi
golygu dirywiad yn nifer teithwyr ar fws a'r rheilffordd a mwy o ddefnydd
o'r car preifat.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ymgyrchu am:
- ran llawer mwy o gyllideb cludiant y Cynulliad Cenedlaethol i gael
ei ganolbwyntio ar ehangu gwasanaethau bws, rheilffordd a thrafnidiaeth
gyhoeddus gymunedol
- gwell isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus fyddai hefyd yn integreiddio
gyda darpariaeth beicio, cerdded a pharcio ceir.
Gall gwell gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a llai o ddefnydd
o'r car:
- annog a galluogi mwy o deithio gyda'r amgylchedd mewn meddwl gan
bawb
- lleihau lledaeniad nwyon newid hinsawdd, ac adnoddau
- lleihau traffig a thagfeydd traffig sy'n niweidiol i'r economi
- cynorthwyo i adfer ansawdd aer iach
- gwell diogelwch ar y ffordd
- galluogi'r cartrefi di-gar tlotaf i deithio i'c cyfleusterau a'r
gwasanaethau sydd eu hangen arnynt
- galluogi pobl i weithio a gorffwys tra'n teithio.
Yn anffodus, mae twf traffig a'r galw am ffyrdd cyflymach i ardaloedd
pellennig yn dod â phwysau ar gyfer adeiladu mwy o ffyrdd sy'n
tanseilio'n uniongyrchol welliannau trafnidiaeth gyhoeddus.
Cludo
nwyddau >
Adnodd
>
Cysylltiadau
>
Llun
Ian Homer