Mae'r gyfundrefn gynllunio'n effeithio ar bopeth sydd o'n cwmpas. Mae'n ffurfio lle rydyn ni'n byw, yn siopa ac yn gweithio a sut rydyn ni'n mynd yno. Ond yn aml nid yw prosesau cynllunio'n ystyried anghenion cymunedau a'r amgylchedd.

Mae cynllunio'n effeithio ar bopeth sydd o'n cwmpas.
Enghreifftiau o lle mae'r gyfundrefn gynllunio'n methu yw:
|
Wyddech chi? Mae dros hanner o deuluoedd tlotaf Prydain yn byw yn yr ardaloedd lle mae mwyaf o draffig, damweiniau a llygredd. |
Ffynhonnell: Wedi'i seilio ar ddata a ddarparwyd gan Business Geographics, Autodesk, Kingswood Cyf. ac ESRI.
Mae'r gyfundrefn gynllunio bresennol yn gallu peri i bobl deimlo ar goll yn llwyr mewn proses gymhleth sy'n aml yn ymddangos yn llesteiriol.
Mae'n bosibl i archfarchnad gael ei harfaethu, ei datblygu a'i hadeiladu gerllaw ichi heb i chi gael cyfle i fynegi barn. Rydych chi am gerdded i'r gwaith neu i'r ysgol, ond nid ydych chi'n siwr sut i wneud y daith yn fwy diogel neu'n haws drwy fynegi'n glir beth yw eich anghenion.
Un ateb yw gwneud yn siwr fod llais pobl leol yn cael ei glywed yn iawn.
Y gyfundrefn cynllunio yng Nghymru >
Llun © Ian Homer