Effiethiau yng Nghymru
22 April 2010

Mae newid hinsawdd yn un o'r bygythiadau mwyaf difrifol y mae'r hil ddynol wedi gorfod ei wynebu erioed.

Mae newid hinsawdd eisoes yn achosi newidiadau datgeladwy yng Nghymru, megis llifogydd.

Erbyn 2080 mae Rhaglen Effeithiau Hinsawdd y DG yn darogan y bydd Cymru'n debygol o gael:

  • hinsawdd gynhesach o 1.1 - 2.9 gradd celsius gydol y flwyddyn
  • 7-24 y cant mwy o lawiad yn y gaeaf
  • 7-14 y cant llai o lawiad yn yr haf
  • 2-9 y cant mwy o lawiad blynyddol
  • codiad o 18-79 cm yn lefel y môr
  • cyfartaledd cyflymderau gwynt uwch o 1-4 y cant.

Bydd hefyd mwy o enghreifftiau o dywydd eithafol:

  • stormydd amlach a mwy ffyrnig
  • mwy o lifogydd
  • gwyntoedd cryfion mwy difrifol
  • mwy o flynyddoedd o sychder.

Fe gaiff newidiadau hinsawdd o'r fath effeithiau niweidiol ar iechyd a diogelwch y cyhoedd, adeiladau a'u hyswiriant, twristiaeth, amaethyddiaeth, erydiad arfordirol, fforestydd, rhostir, rhywogaethau prin o blanhigion a bywyd gwyllt.

Ynni adnewyddadwy >

Stranded car in a flood

© Ian Homer