Ailgylchu
Ailgylchu yw casglu a gwahanu deunyddiau o wastraff a'u trawsffurfio
i gynnyrch gwerthadwy.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cefnogi ailgylchu
am y rhesymau canlynol:
- mae'n lleihau y galw am ddeunyddiau crai drwy ymestyn eu bywydau
a chael y gwerth gorau posib ohonynt
- mae'n lleihau y gwastraff a'r difrod i fywyd gwyllt sy'n rhan o
gloddio am ddeunyddiau crai
- mae'n arbed ynni yn y broses cynhyrchu o'i gymharu â'r ynni
a ddefnyddir pan yn defnyddio deunyddiau crai
- mae'n lleihau llygredd aer a dwr yn y broses gynhyrchu
- mae'n lleihau'r niwed a ddaw o gladdu a llosgi
- mae'n hyrwyddo cyfrifoldeb personol am y gwastraff a gynhyrchir
gennym.
Compostio
Mae compostio gwastraff y gegin, yr ardd, y parc, a hyd yn oed papur
sgrap a chardfwrdd, yn gyflyrydd pridd da ar gyfer amaethyddiaeth a
garddio.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cefnogi datblygiad cyfleusterau compostio
newydd o gwmpas y wlad, fel dull ardderchog o reoli gwastraff pydradwy.
Sero-Wastraff
>
Adnodd
>
Cysylltiadau >
Llun
Ian Homer