Llosgi
Mae llosgiad gwastraff yn llosgi gwastraff ar dymheredd uchel. Mae'n
cynnwys amrywiaeth o systemau llosgi a ddatblygwyd o dechnoleg gwaith
boeler a hefyd technegau mwy newydd megis tywod tawdd a llosgyddion
gwely hylifol.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw ar:
- Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatgan rhewi 10 mlynedd ar adeiladu
llosgyddion newydd yng Nghymru ac i wrthod cynlluniau ar gyfer llosgydd
yn Wrecsam
- cynghorau lleol yng Nghymru i fuddsoddi mewn ailgylchu a chompostio
yn hytrach na llosgyddion.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn gwrthwynebu llosgi oherwydd:
- ei fod yn dinistrio adnoddau gwerthfawr
- mae'n clymu cynghorau lleol i gytundebau tymor hir ar gyfer cael
gwared ar wastraff (dros 20 mlynedd gan amlaf). Gall hyn atal datblygiad
ailgylchu a chompostio
- mae'n cynhyrchu lludw gwenwynig sydd dal angen ei gladdu
- mae'n gwneud newid hinsawdd hyd yn oed yn waeth. Pan losgir deunyddiau,
defnyddir mwy o ynni tanwydd ffosiledig i gymryd lle'r cynnyrch drwy
gloddio, cynhyrchu a chludiant o gwmpas y byd. Nid yw ynni o losgi
gwastraff yn adnewyddadwy
- prin yw'r swyddi mae'n ei gynnig. Mae'r diwydiant ailgylchu yn cynnig
potensial aruthrol ar gyfer creu swyddi cynaladwy yng Nghymru.
Claddu
sbwriel >
Adnodd
>
Cysylltiadau >
Llun
Ian Homer