Mae dulliau adnewyddadwy yn gweithio drwy ddal ynni naturiol yr haul, y gwynt, cnydau pydredig, tonnau a grym dwr, llanw a cherrynt y môr. Caiff yr ynni ei newid i drydan, dwr poeth, tanwydd methan a / neu hydrogen.
Datgelodd ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru yn ddiweddar, gefnogaeth gref iawn ledled Cymru am fwy o ffermydd gwynt ar y tir a'r môr yng Nghymru.

Mae i dechnolegau ynni adnewyddadwy nifer o fanteision dros danwydd
ffosiledig ac ynni niwclear.
Pe gorchuddir un y cant o'r Sahara, neu anialwch poeth tebyg, gyda nifer o ddrychau solar thermol gellid cynhychu yr holl alw am drydan ar gyfer y byd
gallai tyrbinau gwynt ar y môr mewn ardaloedd o 70 milltir wrth 70 milltir gynhyrchu yr holl drydan ar gyfer defnydd cyfredol yn y DG. Byddai hyn yn lleihau oddeutu 25 y cant o ledaeniad nwyon cynhesu byd-eang y DG.
Llun
Cyfeillion y Ddaear Cymru