Llosgi

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn gwrthwynebu llosgi oherwydd:

  • Ei fod yn dinistrio adnoddau gwerthfawr
  • Mae'n clymu cynghorau lleol i gytundebau tymor hir ar gyfer cael gwared ar wastraff (dros 20 mlynedd gan amlaf). Gall hyn atal datblygiad ailgylchu a chompostio
  • Mae'n cynhyrchu lludw gwenwynig sydd dal angen ei gladdu
  • Mae'n gwneud newid hinsawdd hyd yn oed yn waeth. Pan losgir deunyddiau, defnyddir mwy o ynni tanwydd ffosiledig i gymryd lle'r cynnyrch drwy gloddio, cynhyrchu a chludiant o gwmpas y byd. Nid yw ynni o losgi gwastraff yn adnewyddadwy
  • Prin yw'r swyddi mae'n ei gynnig. Mae'r diwydiant ailgylchu yn cynnig potensial aruthrol ar gyfer creu swyddi cynaladwy yng Nghymru.