- Ein hymgyrchoedd
- Amdanom ni
- Get Involved
- Newyddion
Cyfredol
Climate science: Countering the myths
A greener Wales - making it happen
Ailgylchu yn dechrau o ddifri yn Sir Fynwy
Beth fyddai'n well gennych chi: ynni gwynt neu ynni niwclear?
Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
Bwganod Brain Cymru yn mynnu cael caeau di-GM!
Cadwch Gymru'n Rhydd o GM
Coal in Wales
Dyfodol ynni yng Nghymru...
Environmental campaigning - What can I do?
Etholiadau Cynulliad 2003
Fferm wynt fôr Scarweather Sands
Green Question Time
Llwyddiant yr ymgyrch fferm wynt
Llywodraeth y DU yn ailagor dadl ynni niwclear
Mae'r hinsawdd yn newid, mae'n bryd holi cwestiynau
Morglawdd Hafren ac ynni'r llanw
Newport Big Ask Live gig
Sir Benfro i Lundain - Pererindod GM Gerald
Ydi Masnach yn Deg?
Ynni gwynt: 20 Myth Yn Mynd Gyda’r Gwynt
Dai the Dragon demands action at global climate talks
Merthyr defeats massive rubbish incinerator
'Hawl i holi' etholiadau'r Cynulliad o amgylch Cymru
Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach
- Adnodd
Trafnidiaeth
Bydd system drafnidiaeth fwy cynaliadwy yn lleihau allyriadau carbon a llygredd aer, yn cynorthwyo i greu economi wyrddach, a bydd yn decach i bawb.
Trafnidiaeth ffyrdd sy'n gyfrifol am 12 y cant o gyfanswm allyriadau nwy tŷ gwydr Cymru. Er mwyn lleihau ein hallyriadau, rhaid i ni newid y ffordd yr ydym yn teithio, gwella effeithlonrwydd tanwydd a datblygu cerbydau carbon isel.
Fodd bynnag, bydd datblygu system drafnidiaeth fwy cynaliadwy yn gwneud mwy na dim ond cynorthwyo i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Bydd lleihau defnydd ar y car hefyd yn lleihau tagfeydd sy'n niweidio'r economi, yn cynorthwyo i adfer ansawdd aer iach, gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn annog cymunedau cryfach.
Lleihau'r angen
Mae lleihau'r angen i deithio yn y lle cyntaf yr un mor bwysig â chael ceir oddi ar y ffyrdd. Rhaid i gynllunio defnydd tir ddod â lle yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn siopa yn agosach i'w gilydd, a sicrhau eu bod yn cael eu gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus.
Byddai gwarchod gwasanaethau gwledig, annog tele-weithio a chynadledda fideo, a phrynu mwy o gynnyrch lleol yn sicrhau gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau trafnidiaeth. Bydd yr holl gamau hyn yn cynorthwyo i greu cymunedau ac economïau lleol cryf hefyd.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Rhaid i wariant y Llywodraeth ffafrio teithio cynaliadwy dros adeiladu ffyrdd, gan fod angen i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn fynych a fforddiadwy os yw i'n perswadio ni i adael ein ceir adref.
Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu cael system sy'n deg i bawb, gan y bydd yn helpu'r rheiny sydd heb gar i deithio i'r cyfleusterau a'r gwasanaethau y maent eu hangen. Mae perchnogaeth car wedi ei gysylltu'n agos i incwm - dim ond 48 y cant o'r un rhan o bump cartref tlotaf sy'n berchen ar gar, o gymharu â 90 y cant o berchnogaeth car yn yr un rhan o bump cyfoethocaf.
Mae symud cludiant oddi ar y ffyrdd i reilffyrdd ac ar y môr hefyd yn hollbwysig. Caiff dros 60 y cant o lwythi ei gludo ar ffyrdd, gan ychwanegu'n fawr at y tagfeydd, llygredd ac allyriadau carbon.
Effeithlonrwydd tanwydd
Ni fydd ceir yn diflannu'n gyfan gwbl - maent yn hanfodol ar gyfer nifer ohonom, ac maent yn cynnig manteision i'n ffyrdd o fyw ac i'n cymdeithas. Felly, pam fyddwn yn gyrru, mae angen i'n ceir fod mor effeithlon â phosibl. Gyda phrisiau tanwydd yn cynyddu'n gyson, bydd hyn yn arbed arian i ni hefyd.
Gall gwella effeithlonrwydd tanwydd peiriannau ceir confensiynol a cheir rhannol drydanol hefyd dorri allyriadau gan 20-30 y cant. Mae ceir sy'n gwbl drydanol yn defnyddio dim ond tua un rhan o bump o ynni peiriannau petrol a disel heddiw.
Golyga'r angen brys i dorri allyriadau newid hinsawdd bod angen codiadau parhaus mewn trethi tanwydd, a dylid buddsoddi'r refeniw mewn torri costau trafnidiaeth gyhoeddus a gwella cyfleusterau cerdded a beicio.
Llesol i'r economi
Bydd economi Cymru yn elwa o bolisïau lleihau traffig a thagfeydd. Mae cyfleoedd ardderchog hefyd ar gyfer economi Cymru ym maes datblygu a chynhyrchu cerbydau trydan, a'r ffynonellau ynni adnewyddadwy sydd eu hangen i'w pweru.
Mae Stevens Vehicles yn Port Talbot a Connaught Engineering yn Llanelli eisoes yn datblygu cerbydau a thechnoleg trydan, ac mae arbenigedd yn datblygu'n gyflym yng Nghymru o ran cynhyrchu a defnyddio hydrogen a thanwyddau adnewyddadwy ar gyfer trafnidiaeth.
Gall ceisio system drafnidiaeth gyhoeddus fwy cynaliadwy a thechnoleg wyrddach roi Cymru ar flaen y gad ym maes yr economi werdd yn fyd-eang.
Related
Carbon Reduction in Wales: Transport
National Assembly for Wales Consultation response: Nov '07
Rail electrification needed now to counter climate change
Pess release: Nov '10
'Hydrogen highway' welcomed by green group
Press release: Feb '10
Conservatives' support for walking and cycling welcomed but traffic cuts also needed
Press release: Sep '09
Rail electrification plan welcomed
Press release: Jul '09
Green group welcomes scrapping of Gwent Levels motorway
Press release: Jul '09
'Unnecessary and damaging' new motorway scheme must be scrapped
Press release: Jul '09
Assembly makes the right decision for A40
Press release: Dec '08
Wales in the dark about biofuels in petrol
Press release: Apr '08
Scrapping of super-highway a welcomed step towards sustainable transport
Press release: Mar '08

© Ian Homer



Discuss "Trafnidiaeth" in our forum