Skip navigation and title
Friends of the Earth Cymru / Cyfeillion y Ddaear Cymru

Home > FOE Cymru > Press Releases > 2002: Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ymgynghori ar ddrafft ei Gynllun yr Iaith Gymraeg


Grass
Friends of the Earth Cymru

Making life better for people by inspiring solutions to environmental problems


Ymddiheuriadau. Dim ond yn y Saesneg mae datganiadau i'r wasg Cyfeillion y Ddaear i'w cael. Am ragor o wybodaeth gweler ein Cynllun yr Iaith Gymraeg.

Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ymgynghori ar ddrafft ei Gynllun yr Iaith Gymraeg


Heddiw lansiodd Cyfeillion y Ddaear (CYDd), Cymru ddrafft ei Gynllun yr Iaith Gymraeg yn swyddogol (1) ac mae'n gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn y modd y mae'n cyflwyno ei wasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg i gynnig sylwadau (2).

Mae'r cynllun yn amlinellu ymroddiad CYDd Cymru i'r Gymraeg yn ogystal â rhestru pa wasanaethau y bydd yn eu cyflwyno'n ddwyieithog i bobl Cymru. Mae hyn yn cynnwys ateb y ffôn, cyfathrebiaeth, digwyddiadau a chyfarfodydd, cyhoeddiadau, a'r cyfryngau. Mae CYDd hefyd yn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i ddysgu a gwella eu Cymraeg.

Dywedodd Julie Lewis, Swyddog Gwybodaeth ac Ymgyrchoedd:

"Mae CYDd Cymru yn benderfynol o gyflwyno gwasanaeth dwyieithog i bobl Cymru. Er mwyn cael ein polisi yn iawn mae'n bwysig fod pawb yn cael y cyfle i gynnig sylwadau. Gobeithiwn y bydd y cyhoedd a chyrff sydd â diddordeb yn manteisio ar y cyfle i roi eu barn".

Os oes rhywun am gynnig sylwadau gallwch ddadlwytho copi o'r cynllun o wefan CYDd yn: www.foe.co.uk/campaigns/local_groups_and_campaigns/wales.htm
Neu gysylltu â CYDd Cymru am gopi; ffôn: 029 20229577 E bost : [email protected]

NODIADAU

1. Ysgrifennwyd polisi drafft CYDd Cymru gyda chefnogaeth a sylwadau gan Menter Caerdydd a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

2. Gwahoddir sylwadau hyd at 30ain Ebrill 2002


Contact details:

Friends of the Earth Cymru
33 Castle Arcade Balcony
CARDIFF
CF10 1BY

Tel: 029 2022 9577
Fax: 029 2022 8775
Email: [email protected]
Website: www.foecymru.co.uk

 

March 15th 2002
Friends of the Earth Cymru

Last modified: 15.3.02